Aelod Cynulliad Arfon yn galw am ryddhad parhaol i gynlluniau hydro lleol.
Dangoswch eich bod o ddifri am fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd drwy roi’r gorau i drethi hydro, meddai AC.
AC Plaid yn tynnu sylw at argyfwng gofal deintyddol i blant a phobl bregus yn Arfon
MYNEDIAD AT DDEINTYDD YN ARFON ‘YN UN O’R GWAETHAF YN Y WLAD’.
AC Plaid Cymru yn addo bod yn bencampwr canser y coluddyn
Mae Siân Gwenllian AC wedi addo bod yn bencampwr canser y coluddyn er mwyn arwain newid yn y Cynulliad ac yn ei etholaeth ar gyfer pobl sydd yn cael eu heffeithio gan yr afiechyd.
Llywodraeth Llafur Cymru yn mynd ar ol pleidleisiau ar draul diogelwch cleifion.
Y CYHOEDD YN CAEL EU TWYLLO GAN STYFNIGRWYDD BETSI AR OFAL FASGIWLAR MEDDAI’R AC LLEOL.
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi cyhuddo Llywodraeth Llafur Cymru o roi anghenion y Blaid Lafur o flaen diogelwch y cyhoedd yn dilyn gwrthodiad y Prif Weinidog i gychwyn ymgynghoriad cyhoeddus newydd ar symud gwasanaethau fasgiwlar brys o Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Cefnogaeth unfrydol i Sian fel ymgeisydd Plaid Cymru Arfon yn etholiadau Senedd Cymru 2021.
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi cael ei dewis yn ddi-wrthwynebiad fel ymgeisydd y Blaid ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru yn 2021.
Wrth annerch Cynhadledd Wanwyn y Blaid ym Mangor (22.03.2019) dywedodd Siân Gwenllian ei bod yn ‘anrhydedd anferth’ cynrychioli etholaeth Arfon dros y tair mlynedd diwethaf. Cafodd ei dewis yn dilyn dau gyfarfod o aelodau y Blaid ym Mangor a Chaernarfon.
Cyhuddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Llafur o ‘Aneffeithiolrwydd rheolaethol’
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi cyhuddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Llafur Cymru o ‘aneffeithiolrwydd rheolaethol’ wrth ymdrin â’r broses ymgynghori a’r newidiadau pell-gyrhaeddol i wasanaethau fasgiwlar brys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
‘Byddwch yn agored â'r cyhoedd ynghylch y bygythiad i wasanaethau ym Mangor’: Galwad Siân Gwenllian AC.
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian yn galw ar Brif Weinidog Cymru i fod yn ‘agored a thryloyw’ â’r cyhoedd ynghylch y bygythiad i wasanaethau fasgiwlar brys yn Ysbyty Gwynedd Bangor, a chadarnhau pryd yn union y penderfynwyd yn swyddogol i is-raddio’r gwasanaeth.
Galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â sgandal ail-gartrefi
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon, Siân Gwenllian ac Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts yn galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i fynd i’r afael â pherchnogion ail gartrefi sy’n defnyddio bwlch cyfreithiol i osgoi talu treth cyngor.
Galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â sgandal ail gartrefi
Teuluoedd ifanc yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai wrth i berchnogion fanteisio ar fwlch cyfreithiol
ACau Plaid Cymru yn cyfarfod myfyrwyr nyrsio Bangor yng ngwyneb toriadau
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian a Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Helen Mary Jones AC wedi cyfarfod â myfyrwyr a darlithwyr Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wrth i bryderon gynyddu ynghylch toriadau i adran ddarlithio nyrsio arbenigol yn y brifysgol.