Cefnogaeth i alwad Hywel a Siân i sefydlu grŵp ymgyrch WASPI yn Arfon
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian yn gwahodd ceisiadau o ddiddordeb gan ferched ar draws eu hetholaeth sydd wedi eu heffeithio gan newidiadau i’w pensiwn gwladol, i sefydlu grŵp ymgyrchu WASPI lleol i roi fforwm i’r merched wrthwynebu’r newidiadau.
Arafwch y llywodraeth wrth gyflwyno safonau iaith yn “warthus”: Sian Gwenllian
Mae Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg Sian Gwenllian wedi beirniadu’r llywodraeth am fod yn araf wrth gyflawni safonau iaith ar wahanol gyrff sector cyhoeddus Cymru.
Rhaid i’r llywodraeth ddiwygio ei bolisi Cynllunio a’r Gymraeg newydd (TAN20) meddai Sian Gwenllian
Mae llefarydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg Sian Gwenllian AC, wedi dweud fod Llywodraeth Cymru yn euog o greu dryswch ynglyn a’i bolisi cynllunio o safbwynt y Gymraeg yn sgil cyhoeddi polisi sy’n gwbwl anghyson a’r ddeddfwriaeth.
Corff rhyngwladol yn rhybuddio yn erbyn dileu swydd y Comisiynydd Iaith
“Mae ymdrechion y llywodraeth Lafur i ddileu swydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn annoeth ac fe fydd yn gwanhau hawliau siaradwyr Cymraeg" meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg, Sian Gwenllian.
AC Arfon yn cefnogi gweithgareddau diwrnod gwyrdd
Yn ddiweddar, bu ysgolion drwy Gymru a thu hwnt yn cynnal ‘diwrnod gwyrdd’ i ddangos eu cefnogaeth i goedwigoedd glaw y byd. Mae’r ‘Diwrnod Gwyrdd’ yn ddiwrnod blynyddol o weithgaredd gwyrdd a drefnir gan yr elusen newid hinsawdd, Maint Cymru.
Mae Siân Gwenllian AC yn annog preswylwyr i 'Gadw Cam Ymlaen Cyn y Gaeaf' gyda 10 awgrym defnyddiol
“Dywedodd Siân Gwenllian AC: "Mae'n bwysig iawn cadw cam ymlaen cyn y gaeaf. Rwyf am i bawb yn Arfon ddeall pa gymorth sydd ar gael iddynt hwy, a hefyd ar gyfer eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae bod yn effeithlon o ran ynni a chadw biliau dan reolaeth yn bwysig iawn, felly byddwn i'n annog pobl i gysylltu â'u cyflenwr ynni i ddarganfod pa gefnogaeth sydd ar gael"
Hysbys Swydd
Mae Hywel Williams Aelod Seneddol Arfon a Siân Gwenllian Aelod Cynulliad Arfon
am benodi
Swyddog Gweinyddol
i ddarparu gwasanaeth ysgrifennyddol/cymorth gweinyddol i’r AS a’r AC
Ystod Cyflog: £18,619 - £25,109
Swydd llawn amser 37awr yr wythnos, 22.2 awr (tri ddiwrnod) i'r Aelod Seneddol
ac 14.8 awr (dau ddiwrnod) i'r Aelod Cynulliad dan gytundeb gwahanol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol
Ymholiadau anffurfiol a manylion pellach gan
Richard Thomas ar 01286 672076
Dyddiad cau am geisiadau: 5.00yh, Dydd Gwener, Tachwedd 10, 2017
Cynhelir cyfweliadau ar: Ddydd Gwener, Tachwedd 17, 2017
(This is an advertisement for a Full Time Administrative Officer to provide secretarial and administrative duties for Hywel Williams MP and Siân Gwenllian AM. Complete fluency in oral and written Welsh & English is essential).
AS yn galw am welliannau brys i rwydwaith ffonau ym Mharc Menai Bangor
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, wedi annog darparwyr ffonau symudol i wneud popeth sydd ei angen i wella gwasanaeth symudol yn un o barciau busnes mwyaf gogledd orllewin Cymru, wrth i rai tenantiaid ystyried ail-leoli.
AC Arfon yn cefnogi menter newydd yn Nhref Caernarfon
Mae Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian yn cefnogi ymgyrch #80mewn8 menter gymunedol Llety Arall yng Nghaernarfon wrth i’r rhai sydd tu ôl i’r cynllun apelio ar y cyhoedd am werth £80,000 o fuddsoddiadau o fewn yr 8 wythnos nesaf, er mwyn gwireddu eu breuddwyd.
AC Arfon yn ennill brwydr cyllid cefnogi pobl
Mae AC Arfon Siân Gwenllian yn falch iawn bod trafodaethau cyllideb gyda Llywodraeth Cymru wedi golygu na fydd toriadau i gyllideb y rhaglen Cefnogi Pobl am ddwy flynedd.