Newydd da am wasanaeth bws Gerlan, Dyffryn Ogwen

Mae’r Cynghorydd Sir dros Gerlan, Bethesda yn falch bod cwmni bysiau Arriva wedi gwrando ar gri trigolion lleol i sicrhau y bydd gwasanaeth bws yn teithio o Fangor i Gerlan o’r cyntaf o Dachwedd ymlaen.

 

“Roedd pawb yn deall bod gwasanaethau bws yn cael eu cwtogi yn ystod y cyfnod clo dros yr haf a bod y bws o Fangor yn gorffen ei thaith ym Methesda yn ystod y cyfnod hwnnw,” eglurodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, sy’n cynrychioli trigolion Gerlan ar Gyngor Gwynedd.

 

“Ond pan gyhoeddwyd yr amserlen newydd ym mis Medi, gwelsom fod y cwmni am wneud y newid hwn yn barhaol. Byddai hyn yn peri problem fawr i drigolion Gerlan sy’n dibynnu ar y bws, yn enwedig pobl hŷn.

 

“Mae’r pentref ar ben gallt ac mae’n anodd cerdded adref gyda llond eich breichiau o fagiau siopa. Roedd hi’n annheg ar drigolion Gerlan bod y gwasanaeth bws yn dod i stop ym Methesda.”

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Rheinallt Puw, sy’n cynrychioli trigolion Ward Ogwen: “Mae hi’n bwysig bod gwasanaethau cyhoeddus fel hyn ar gael i drigolion Dyffryn Ogwen. Mae hi’n dyngedfennol bwysig ein bod ni’n ei gwneud yn hawdd i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fydd y pandemig drosodd, er lles yr amgylchedd hefyd.

 

Cafodd y ddau gefnogaeth gan eu cyd aelodau Plaid Cymru, Aelod o Senedd Cymru, Siân Gwenllian dros Arfon a’r Aelod Seneddol, Hywel Williams, a oedd wedi pwyso ar gwmni bysiau Arriva i ail gyflwyno’r gwasanaeth i Gerlan.

 

Yn ôl y Cynghorydd Rowlinson: “Dwi’n falch iawn bod Arriva wedi gwrando arnon ni’n lleol ac wedi cytuno y bydd chwe bws y dydd yn teithio yr holl ffordd i fyny i Gerlan o’r cyntaf o Dachwedd ymlaen. Bydd y bws yn teithio i Gerlan bob dwy awr yn ystod y dydd, fydd yn help garw i bobl yr ardal yma. Diolch i bawb am y cydweithio.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-10-26 11:45:54 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd