Peidiwch â diystyru'r niwed i'n pobl ifanc

Plaid yn galw am ddefnyddio asesiadau athrawon yn lle arholiadau haf 2021.

Mae Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru Siân Gwenllian AS heddiw wedi ailadrodd galwadau am ganslo arholiadau haf 2021 a defnyddio asesiadau athrawon yn eu lle ar gyfer pob disgybl.

 

Mae ysgolion Cymru eisoes yn teimlo effaith amhariadau, gan fod gwahanol gohortau wedi gorfod hunan-ynysu, a disgyblion hŷn ysgolion uwchradd wedi gorfod aros gartref yn ystod y 'cyfnod atal byr', ac mae Ms Gwenllian wedi galw ar Lywodraeth Cymru i symud yn gyflym i gyhoeddi y caiff arholiadau haf 2021 eu canslo.

 

Mae Ms Gwenllian wedi mynegi pryderon am les pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn ac mae hi'n dweud “mae poeni am arholiadau'n un haen ychwanegol o bryder y byddai mor hawdd ei dileu.”

 

Ddydd Mercher, bydd Plaid Cymru'n arwain dadl yn y Senedd am 'Ddyfodol Addysg' lle byddant yn galw ar Lywodraeth Cymru, ymysg pethau eraill, i gyhoeddi y caiff holl arholiadau haf 2021 eu canslo.

 

Meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru Siân Gwenllian AS,

 

“Os nad oedd eisoes yn amlwg o'r ffaith bod rhaid i niferoedd uchel o ddisgyblion hunan-ynysu, dylai'r cyhoeddiad yr wythnos yma ei gwneud yn glir y bydd hyn yn amharu lawn cymaint ar flwyddyn ysgol 2020/21 - os nad mwy - na'r flwyddyn academaidd ddiwethaf.

 

“Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau na chaiff ffiasgo arholiadau Safon Uwch haf 2020 ei ailadrodd, drwy wneud datganiad ar unwaith na chaiff arholiadau eu cynnal yn haf 2021. Mae'r pandemig eisoes wedi dangos i ni bod system sy'n seiliedig ar asesiadau athrawon yn bosibl, a byddai penderfyniad cynnar i ganslo arholiadau'r flwyddyn nesaf yn rhoi amser inni i drafod proses safoni ystyrlon a chytuno arni.

 

“Mae'n rhaid i arholiadau TGAU a Safon Uwch fynd. Mae'r arddull 'un yn addas i bawb' hwn yn arbennig o annheg i'r disgyblion sydd wedi colli llawer o ysgol drwy orfod hunan-ynysu, ac i'r disgyblion ysgol uwchradd hŷn fydd yn gorfod aros gartref o dan reolau'r 'cyfnod atal byr' cenedlaethol.

 

“Ni ddylem ddiystyru'r niwed y mae'r amhariad hwn yn ei wneud i iechyd meddwl a lles ein disgyblion.

 

“Mae poeni am arholiadau'n un haen ychwanegol o bryder y byddai mor hawdd ei dileu. Byddai gwneud y penderfyniad yr wythnos yma – cyn y cyfnod atal byr – i ganslo arholiadau'r flwyddyn nesaf yn osgoi ffiasgo Safon Uwch arall a thro pedol munud olaf fel yr un a welsom llynedd, ac nad oedd o fudd i neb. Byddai'n gam mawr at leddfu rhywfaint ar bryderon pobl ifanc yn ystod yr argyfwng cenedlaethol hwn.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-10-21 10:34:19 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd