Plaid Cymru Bangor yn ymateb i ddiffyg bwyd yn ystod y gwyliau ysgol

Elin_Walker_Jones_Steve_Collings_Siân_Gwenllian.jpg

Gyda’r gwyliau ysgol yn eu hanterth daw problem diffyg bwyd i blant i’r amlwg, gyda phlant a phobl ifanc sydd yn derbyn cinio ysgol am ddim yn ei chael hi’n anodd i gael digon i’w fwyta yn ystod gwyliau chwe wythnos yr haf. Mae nifer o deuluoedd yn dibynnu ar fanciau bwyd i’w cynnal yn ystod yr adeg yma o’r flwyddyn, ac mae’r Trussell Trust - elusen gwrthdlodi - yn galw am ragor o roddion gan y cyhoedd er mwyn cwrdd â’r cynnydd mewn angen.

Mae banciau bwyd yng Nghaernarfon a Bangor sydd yn brysur gydol y flwyddyn, ond mae cynlluniau eraill ar gael sydd o gymorth wrth geisio ymateb i’r cynnydd mewn galw ar adegau fel hyn. Mae cynllun bwyd gan Blaid Cymru Bangor a lansiwyd bedwar mis yn ôl yn mynd o nerth i nerth ac mewn sefyllfa ddelfrydol i gynnig cefnogaeth i bobl sydd yn canfod eu hunain heb ddigon o fwyd yn ystod y gwyliau.

Mae cynllun ‘Foodshare’ Bangor yn cael ei redeg o swyddfa Plaid Cymru yn rhan uchaf y stryd fawr ac mae ar agor bob dydd Sul rhwng 10 a 12. Mae’n rhan o’r cynllun ‘Fareshare’ sydd yn rhannu bwyd o archfarchnadoedd a fyddai wedi mynd yn wastraff fel arall, ac mae cynlluniau cymunedol sydd yn darparu cymorth i bobl fregus yn cael rhoi eu henwau i’r cynllun a derbyn bwyd dros ben o’u harchfarchnad leol. Yn achos cynllun Bangor, daw’r bwyd o Tesco a Waitrose ac mae ei ddosbarthu fel hyn yn fodd o sicrhau nad ydi o’n cael ei wastraffu.

Meddai Siân Gwenllian, “Cafodd y cynllun rhannu bwyd ei argymell gan gynghorwyr Plaid Cymru Bangor mewn cydweithrediad â siopau lleol Tesco a Waitrose, ac mae’r bwyd ar gael i unrhyw un sydd ei angen, a dim holi cwestiynau. Mae nifer o fwydydd gwahanol yn gallu bod ar gael yn dibynnu ar beth sydd dros ben yr wythnos honno, ond fel arfer mae mwy na digon o fara sydd yn ddelfrydol i deuluoedd yn ystod y gwyliau ar gyfer brechdanau a thost. Mae hyn yn ffordd ardderchog o roddi cymorth i deuluoedd ac ar yr un pryd arbed bwyd da rhag cael ei daflu.”

Dywedodd Hywel Williams AS, “Mae’r fenter yma yn arwyddocaol o’r ysbryd gymunedol sydd i’w weld ar hyd yr etholaeth. Mae’n galonogol fod pobl Arfon yn barod i gamu ymlaen i helpu rhai mewn angen. Mae Cynllun Foodshare Plaid Cymru Bangor wedi ei sefydlu fel ymateb i’r argyfwng tlodi bwyd sy’n effeithio bywydau miloedd o bobl ar draws Cymru. Rwy’n talu teyrnged i’r gwirfoddolwyr sy’n rhan o’r cynllun yma sy’n rhoi eu dyddiau Sul i fyny i gefnogi rhai mewn angen a hefyd i’r arfarchnadoedd lleol am weithio gyda ni i ddarparu’r gwasanaeth yma.”

Steve Collings, cynghorydd ward Deiniol dros Blaid Cymru sydd yn cydlynu’r cynllun.

“Mae yna gynllun tebyg yn gweithredu yng Nghaernarfon ac roedden ni’n meddwl bod angen un ar Fangor hefyd,” meddai’r Cyng. Collings. “Mae’n ddefnyddiol fel rhywbeth arall i deuluoedd sydd angen nwyddau ychwanegol i’w cadw nhw i fynd o dro i dro ond sydd ddim angen cefnogaeth cyson gan fanc bwyd, ac mae o hefyd yn rhywbeth ar ben y nwyddau banc bwyd i’r rhai sydd yn defnyddio hwnnw’n gyson. Y prif beth am y cynllun ydi mai dim ond troi fyny sydd angen - does dim angen esboniad, gwaith papur na chyfeiriad gan unrhyw asiantaeth. Rydym yn gweld pobl o bob math o gefndiroedd gwahanol, gan gynnwys rhai sydd mewn gwaith. Mae nifer o bobol ar gytundebau oriau sero neu gyflogaeth isel ac mae ambell dorth o fara yn gallu eu helpu nhw i ymdopi tan y taliad cyflog nesaf. Mi ddywedwn i ein bod ni’n gweld oddeutu 30 o bobol bob dydd Sul.”

Mae Siân Gwenllian wedi ymweld â’r cynllun bwyd ac wedi treulio amser yno fel gwirfoddolwr gyda’r cynghorwyr.

“Yn ôl ffigyrau’r Ymddiriedolaeth Trussell mae’r nifer o blant sydd yn defnyddio banciau bwyd yn ystod yr haf wedi saethu i fyny – mae hynny’n sefyllfa warthus a ddylai godi cywilydd ar ein llywodraeth, ac ni ddylai’r un plentyn fynd heb rywbeth mor sylfaenol a phryd o fwyd ar adeg pan y dylent fod yn mwynhau eu hamser adref.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.