Plaid Cymru Gwynedd yn galw am godi premiwm ail gartrefi a thai gwag.

Yn ystod cyfarfod o Gyngor llawn Gwynedd heddiw dywedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dafydd Meurig bod angen i’r cyngor ystyried cynyddu’r premiwm ail gartrefi ac eiddo gwag o 50% i 100%

 

Yn ôl y Cynghorydd Dafydd Meurig: “Rydym wedi clywed galwadau cyhoeddus di-ri gan ein cymunedau, i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys yn y maes hwn, ond mae’r ymateb wedi bod yn ddigon llugoer gan y Blaid Lafur hyd yma.

 

“Mae’r farchnad dai wedi gorboethi ers diwedd y cyfnod clo a chynnydd anhygoel mewn prisiau tai. Mae tai yn gwerthu heb oedi, yn aml gydag arian parod. Mae’n amlwg fod nifer yn cael eu prynu i fod yn dai gwyliau neu ail-gartref.

 

“Mae rhai o'r tai hyn yn atal pobl ifanc, a anwyd ac a fagwyd yn yr ardal, rhag cael eu traed ar ysgol y farchnad eiddo.”

 

“Ddoe cyhoeddwyd gwaith ymchwil manwl gan wasanaeth cynllunio’r Cyngor i edrych am ffyrdd i reoli gosodiadau tai gwyliau tymor byr drwy’r drefn gynllunio, trefn trwyddedu ac wrth gwrs, trwy drethu.

 

“Bydd yr adroddiad yn sail tystiolaeth gadarn ac yn cynnig ffordd ymlaen i Lywodraeth Lafur Cymru weithredu. Gyda chefnogaeth nifer o gynghorau eraill sy’n wynebu’r un argyfwng mi fyddwn ni fel Plaid, yn cyflwyno ein hargymhellion i Weinidogion y Llywodraeth.

 

“Petae gennym ni Lywodraeth sydd â dealltwriaeth a chydymdeimlad o’r sefyllfa ddifrifol hon ym maes tai, dylent fod wedi comisiynu’r math yma o waith ymchwil ledled Cymru. Unwaith eto mae Llywodraeth oleuedig yr Alban eisoes yn deddfu yn y maes.

 

“Yng nghyfarfod Cabinet Gwynedd nesaf, byddwn yn ystyried ein Cynllun Gweithredu Tai cyffrous i ddarparu tai o safon sydd wir eu hangen ar ein pobl ni yng Ngwynedd. Mae’n gynllun uchelgeisiol a chyffrous sy’n buddsoddi £77miliwn ac yn manteisio ar y gronfa premiwm ail-gartrefi.

 

“Mae gennym deimladau cryfion am godi’r premiwm, ond gan fod rhaid i ni ddilyn trefn statudol o ymgynghori a rhoi ystyriaeth i effaith unrhyw newid, dwi’n awyddus i ni ddychwelyd i’r Cyngor ym mis Mawrth gydag argymhelliad clir.”

 

Nôl ym mis Ebrill 2018, cyflwynodd Cyngor Gwynedd dan arweinyddiaeth Plaid Cymru, y premiwm treth y cyngor i berchnogion ail gartrefi, gan godi cyfanswm y dreth i berchnogion o 50%.

 

Bydd trafodaeth ar y  premiwm yn digwydd yng nghabinet Cyngor Gwynedd 15 o Ragfyr 2020.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-12-04 11:26:12 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd