Plaid Cymru yn croesawu'r penderfyniad i sgrapio arholiadau

Plaid Cymru yn croesawu'r penderfyniad i sgrapio arholiadau – mae'r Blaid wedi bod yn galw am hyn ers yr haf – ond yn rhybuddio "mae'r anghyfarwydd yn achosi mwy o straen" wrth i fath newydd o asesiadau allanol gael eu cadarnhau.

Wrth ymateb i gadarnhad gan Lywodraeth Cymru o'u dulliau ar gyfer cymwysterau yn 2021, meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS,

 

"Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am sgrapio pob arholiad ers ffiasgo arholiadau'r haf. Ar ôl cymaint o darfu ar y flwyddyn addysgol bresennol eisoes, canslo holl arholiadau diwedd y flwyddyn yw'r penderfyniad cywir i bobl ifanc Cymru, a bydd hyn yn gwneud cryn dipyn i leddfu pryder.

 

"Mae'r addysg y mae disgyblion wedi'i gael eleni wedi amrywio cymaint eisoes, ac ni fyddai dull arholiadau 'yr un fath i bawb' wedi bod yn deg ar y maes chwarae anwastad hwn.

 

"Rydym yn gwybod bod cyfraddau coronafeirws yn tueddu i fod yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig. Rydym yn gwybod am y rhaniad digidol ymysg ein pobl ifanc sy'n gysylltiedig â thlodi. Rydym hefyd yn gwybod o ffiasgo arholiadau'r haf bod plant o ardaloedd difreintiedig yn llai tebygol o berfformio'n dda mewn arholiadau.

 

"Roedd yr adolygiad annibynnol wedi'i gadeirio gan Louise Casella yn argymell sgrapio'r arholiadau i gyd a defnyddio graddau wedi'u hasesu gan ganolfannau fel dull asesu amgen. Dyma'r llwybr y byddai Plaid Cymru wedi ei ddewis fel y ffordd decaf ymlaen, a'r peth gorau o ran llesiant disgyblion. Fodd bynnag, wrth ddewis dilyn cyngor Cymwysterau Cymru, sy'n cynnwys elfen o asesu allanol, mae'n rhaid i'r Gweinidog Addysg dderbyn bod yr anghyfarwydd yn achosi mwy o straen, ac y gellid bod wedi ei osgoi i gyd.

 

"Nawr, mae angen ffocws ar y cyfnod o ymgynghori â rhanddeiliaid sydd i ddod. Gyntaf yn y byd y gallwn fod yn glir ynglŷn â'r manylion a'r hyn sydd i'w ddisgwyl gan bawb, gyntaf yn y byd y gallwn baratoi ein dysgwyr am flwyddyn gythryblus arall."

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-11-10 17:02:00 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd