Plaid Cymru yn lansio Cynllun Adnewyddu Economaidd Brys i 'Ail-gychwyn Cymru'

Mae'r cynllun triphlyg yn nodi'r camau sydd ei angen i fynd i'r afael â'r argyfwng sydd yn wynebu Cymru dros yr 18 mis nesaf. 

Mae Plaid Cymru heddiw wedi lansio eu cynllun adnewyddu economaidd brys i "ail-adeiladu" Cymru.
 
Wrth gyflwyno'r cynllun, dywedodd AS Plaid Cymru a Gweinidog Cysgodol Yr Economi, Taclo Tlodi a Thrafnidiaeth, Helen Mary Jones, fod y cynllun yn cynnwys “cynigion radical” y dylid eu mabwysiadu er mwyn "diogelu bywoliaeth, ail-gychwyn yr economi" ac "adeiladu'n ôl yn well".
 
Dywedodd Ms Jones fod yr argyfwng coronafeirws yn argyfwng iechyd ac yn argyfwng economaidd ac wedi amlygu "anghydraddoldebau cymdeithasol" ac "ansefydlogrwydd" economi "bad achub" presennol Cymru.
 
Dywedodd Ms Jones fod angen ehangu'r pwerau economaidd sydd wedi'u datganoli i Gymru, gan gynyddu'r capasiti yn arbennig er mwyn i Lywodraeth Cymru fenthyca er mwyn "buddsoddi'n ffordd" yn y adferiad.
 
Mae'r Cynllun Adnewyddu Economaidd Brys yn cynnig:
 
1.       Cynllun Gwarantu Cyflogaeth i bobl ifanc 18-24 oed – gyda chronfa Cymru'r dyfodol a fyddai'n cynnig swydd i bob un ddi-waith 18-24 oed yng Nghymru.
 
2.       Cynllun i "ail-sgilio" Cymru drwy roi taliad di-dreth o £5,000 i bob person di-waith dros 24 mlwydd oed, wedi'i gynllunio i'w helpu i ail-sgilio a dod o hyd i waith.
 
3.       Cronfa Adnewyddu Cymru Gyfan i gefnogi gweithgarwch i:
·       Trawsnewid sectorau y nodwyd eu bod yn cael eu taro galetaf gan Covid-19.
·       Adeiladu Cymru gynaliadwy, gan baratoi'r ffordd i genedl ddi-garbon erbyn 2030.
·       Datblygu ymdeimlad newydd o ' leoliaeth ' sy'n gwerthfawrogi gwa
 
Y tu hwnt i'r pum mlynedd cyntaf, nodir y dylid rhoi hwb i Gronfa Adnewyddu Cymru Gyfan gan fond £20 biliwn hirdymor, sy'n ad-daladwy dros ddeng mlynedd ar hugain. Byddai hyn yn ein galluogi i fuddsoddi mewn adeiladu Cymru'r dyfodol, gan greu:
 
        Cronfa Waddol Genedlaethol: Rhoi'r incwm i'n prifysgolion weddnewid Gwyddoniaeth Cymru ac ymchwil a datblygu, gan greu syniadau newydd ar gyfer economi newydd ac arloesi mewn iechyd a gwasanaethau cyhoeddus..
 
        Bargen Newydd Werdd: Miloedd o swyddi newydd drwy fuddsoddi mewn seilwaith ynni glân, cartrefi sy'n defnyddio ynni'n effeithlon a thrafnidiaeth gynaliadwy.
 
        Cefnogi busnesau lleol: cefnogaeth ychwanegol i Fanc Datblygu Cymru i fenthyg i fusnesau bach, hen a newydd, i greu swyddi ôl-Covid.
 
        Seilwaith cymdeithasol: Manteision uniongyrchol i fywyd bob dydd drwy dai newydd a gwell cyfleusterau iechyd ac addysg.
 
Byddai adenillion o Gronfa Adnewyddu Cymru Gyfan yn ad-dalu costau buddsoddi ac yn “sicrhau gwlad fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac yn rhannu ffyniant a chyfle yn gyfartal”.
 
Meddai Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Helen Mary Jones MS said,
 
“Nid argyfwng iechyd yn unig yw’r Coronavirus - mae’n argyfwng economaidd. Mae hefyd wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau cymdeithasol a gwendidau bywyd dydd i ddydd llawer o bobl yng Nghymru - ac ansefydlogrwydd ein heconomi “bad achub” gyfredol.
 
“Mae Cynllun Adnewyddu Plaid Cymru yn cynnwys cynigion radical y dylid eu mabwysiadu ar unwaith i amddiffyn bywoliaethau, ail-gychwyn yr economi a sicrhau ein bod yn adeiladu’n ôl yn well. Megis dechrau yw'r cynigion hyn. Ond mae angen i'r dechrau hwnnw gael ei roi ar waith nawr.
 
“Mae Plaid Cymru yn galw am Gynllun Adnewyddu Brys triphlyg i fynd i’r afael â’r argyfwng uniongyrchol sy’n wynebu Cymru dros y 18 mis nesaf. Mae hwn yn cynnwys Cynllun Gwarant Cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc 18-24 oed; taliad ail-hyfforddi o £ 5,000 yn ddi-dreth ar gyfer y di-waith dros 24 oed; a Chronfa Adnewyddu Cymru gyfan i ddechrau buddsoddi yn y tymor hwy mewn seilwaith gwyrdd.
 
“Ni all y setliad datganoli presennol ymdopi a’r ergyd economaidd ddaw gan Covid-19 na’r Brexit caled sydd ar ddod. Mae angen ehangu pwerau economaidd sydd wedi’u datganoli i Gymru, ac yn enwedig rhoi mwy o allu i Lywodraeth Cymru fenthyca i fuddsoddi ein ffordd i adferiad. ”
 

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd