Plaid Cymru yn rhybuddio bod dyfodol y Llyfrgell Genedlaethol "mewn perygl" oherwydd diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru

Mae hanes Llafur o warchod a hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru yn "alaethus ac yn ofnadwy o siomedig", meddai Siân Gwenllian o Plaid

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio bod dyfodol Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn perygl os na wnaiff Llywodraeth Cymru, dan arweiniad Llafur, ddarparu setliad ariannol cynaliadwy.

 

Nid oes dim cyllid ychwanegol wedi'i ddyrannu i'r Llyfrgell Genedlaethol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, er bod adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi argymell y dylid gwneud hynny.

 

Mae angen tua £1.5m ar y llyfrgell er mwyn osgoi torri rhagor o staff a gwasanaethau, wedi i £200,000 o'r £250,000 a dderbyniodd yn ddiweddar gael ei dynnu'n ôl gan Lywodraeth Cymru oherwydd y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru yn honni nad yw'r £1.5m ar gael, er iddynt gyhoeddi £17.7m ar gyfer chwaraeon yng Nghymru yr wythnos diwethaf.

 

Mae deiseb ar-lein sy'n galw am gyllid teg i'r llyfrgell wedi llwyddo i gasglu bron i 14,000 o lofnodion. Mae'r alwad hefyd wedi cael ei chefnogi gan awdur ‘His Dark Materials’ Philip Pullman, a fynegodd ei bryder am y bygythiad sy'n wynebu'r llyfrgell gan alw'r toriadau cyllid yn "fandaliaeth ar raddfa epig".

 

Gan alw'r Llyfrgell Genedlaethol yn rhan sylfaenol o fywyd diwylliannol, addysgol a hanesyddol Cymru, dywedodd Gweinidog Cysgodol dros Ddiwylliant Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS, fod blynyddoedd o doriadau cyllid wedi ei gadael "ar ei gliniau" a'i dyfodol "mewn perygl" heb setliad cyllid cynaliadwy gan y Llywodraeth.

 

Beirniadodd Ms Gwenllian hanes "alaethus ac ofnadwy o siomedig" Llafur o warchod treftadaeth a diwylliant Cymru, a dywedodd y byddai cenedlaethau'r dyfodol yn eu barnu am beidio â gweithredu oni bai eu bod yn gwneud rhywbeth.

 

Yn nes ymlaen, bydd Plaid Cymru yn arwain dadl yn y Senedd am gyllid y Llyfrgell yn y dyfodol, gan alw am.

 

Meddai Gweinidog Cysgodol dros Ddiwylliant Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS,

 

"Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn rhan sylfaenol o fywyd diwylliannol, addysgol a hanesyddol Cymru ond mae blynyddoedd o doriadau cyllid wedi ei gadael ar ei gliniau a'i dyfodol mewn perygl os na chaiff setliad cyllid cynaliadwy ei ddarparu.

 

"Mae'r gyllideb ddrafft ddiweddaraf yn dangos nad oes gan Lywodraeth bresennol Cymru, dan arweiniad Llafur, ddim diddordeb mewn sicrhau hyfywedd ariannol hirdymor un o'n sefydliadau cenedlaethol mwyaf gwerthfawr.

 

"Fe wnaeth y Llywodraeth eu hunain gomisiynu adolygiad wedi'i deilwra o'r Llyfrgell, ac argymhellodd hwn y dylid rhoi sylw brys i anghenion ariannol y Llyfrgell gan fod y sefyllfa ariannu bresennol yn anghynaliadwy. Dywedodd y Gweinidog Diwylliant ei hun ei fod yn edrych ymlaen at roi'r argymhellion hyn ar waith, ond nid oes dim cyllid ychwanegol wedi'i ddyrannu i'r Llyfrgell.

 

"O wrthod gwneud hanes Cymru yn orfodol, i fethu ag ariannu Canolfan Hanes a Chelfyddydau Tre-biwt, i ddymchwel tirnodau diwylliannol fel Caffi'r Paddle Steamer yn Nhre-biwt, mae hanes Llafur o warchod a hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru yn alaethus ac yn ofnadwy o siomedig.

 

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad brys o'r cyllid annigonol sydd wedi'i ddyrannu i'r Llyfrgell Genedlaethol a darparu setliad ariannol cynaliadwy i'r Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn gwarchod gweithlu heddiw ac yn caniatáu i'r llyfrgell ehangu ei gwaith hollbwysig ar gyfer y dyfodol.

 

"Mae'r Llyfrgell yn sefydliad cenedlaethol, ac mae'n rhaid ei gwarchod. Fel y dywedodd yr awdur Phillip Pullman, byddai diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru yn fandaliaeth ddiwylliannol a bydd cenedlaethau'r dyfodol yn barnu Llafur am beidio â gweithredu."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-02-03 14:09:29 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd