Plaid yn galw ar y Gweinidog Addysg i gyhoeddi cynllun gweithredu lliniaru Covid.

Mae Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS, wedi galw ar y Gweinidog Addysg i gyhoeddi ei chynllun gweithredu lliniaru Covid. 

Mae’r alwad hon yn dilyn "pryderon cynyddol" am y modd y mae cau ysgolion am amser hir yn effeithio ar ddisgyblion.

Dywedodd Ms Gwenllian fod rhieni o "bob rhan o Gymru" wedi cysylltu â hi i ddweud ei bod hi'n mynd yn "anoddach cymell eu plant i roi sylw i'w haddysg".

Dywedodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid fod llawer o blant a phobl ifanc yn methu â manteisio ar ddysgu o bell oherwydd diffyg cyfarpar neu gysylltiad a bod "miloedd" "ddim yn ymwneud" oherwydd diffyg anogaeth y byddent fel rheol yn ei chael o ryngweithio'n rheolaidd ag athrawon.

Galwodd Ms Gwenllian am gynllun mwy strwythuredig gan gynnwys mireinio dysgu ar-lein, o ystyried ei bod yn edrych yn llai tebygol y bydd pob plentyn yn ôl yn yr ysgol yn llawn-amser ym mis Medi.

 

Mae blaenoriaethau Plaid Cymru ar gyfer cynllun lliniaru yn cynnwys:

  • Darparu'r cyfarpar a'r dechnoleg gywir i alluogi pob disgybl i weithio ar-lein
  • Sefydlu a chynnal rhyngweithio parhaus rhwng athrawon a disgyblion - gan gynnwys gwersi wedi'u ffrydio'n fyw
  • Targedau ar gyfer faint o waith y mae angen ei gyflwyno a thargedau ar gyfer adborth 
  • Mwy o fuddsoddiad mewn platfformau addysg ar-lein 
  • Targedau mewngofnodi / presenoldeb ar gyfer pob disgybl/ysgol 
  • Buddsoddi mewn ysgolion fel canolfannau llesiant - dull amlasiantaethol sy'n canolbwyntio ar yr ysgol
  • Buddsoddi mewn gwaith cyswllt â theuluoedd, gan roi blaenoriaeth i'r disgyblion hynny sydd ddim yn ymwneud ag addysg o gwbl ar hyn o bryd.

 

Galwodd Ms Gwenllian hefyd am eglurder ynghylch y cyllid canlyniadol a ddylai ddod i Gymru o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf ynglŷn a chyllid ychwanegol ar gyfer addysg. 

Mae adroddiad ar y cyd a gyhoeddwyd heddiw gan Barnardo's Cymru a Gweithredu dros Blant Cymru yn nodi pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth rhwng ysgolion a gwasanaethau cymorth i deuluoedd i ofalu am iechyd meddwl, llesiant a dysg disgyblion.

Ddydd Mawrth, dywedodd adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, fod rhai o blant mwyaf agored i niwed Cymru yn cael eu "colli mewn drysfa o fiwrocratiaeth" ac yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru bod plant sy'n cael anhawster â materion iechyd meddwl, lles emosiynol ac ymddygiad yn cael eu bownsio rhwng gwasanaethau.

Galwodd Ms Gwenllian ar y Llywodraeth i weithio gyda'r Comisiynydd Plant a Barnardo's Cymru i fapio ymyriadau effeithiol y gellid eu rhoi ar waith cyn mis Medi.

 

Meddai Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS: 

"Mae pryder yn cynyddu am y modd y mae cau ysgolion am amser hir yn effeithio ar ddisgyblion.  

"Mae llawer o rieni o bob rhan o Gymru wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod hi'n mynd yn anoddach cymell eu plant i roi sylw i'w haddysg. Mae llawer o blant a phobl ifanc yn methu â manteisio ar ddysgu o bell oherwydd diffyg cyfarpar neu gysylltiad. Nid yw miloedd ohonynt yn ymwneud â'u haddysg o gwbl, oherwydd nid ydynt yn cael yr anogaeth hanfodol y byddent yn ei chael o ryngweithio'n rheolaidd â'u hathrawon, sy'n dangos pa mor hanfodol yw'r berthynas rhwng athro a disgybl yn ein system addysg.  

"Mae'r diffyg rhyngweithio ag athrawon, prinder adborth a pheidio â theimlo'n rhan o ddosbarth sy'n gweithio i gyflawni'r un peth yn ei gwneud hi'n anodd iawn i ddisgybl brwdfrydig, hyd yn oed, gadw cymhelliant.

"Mae'r holl sefyllfa'n ddigynsail ac wedi rhoi straen enfawr ar ysgolion. Fodd bynnag, os na fydd plant yn yr ysgol yn llawn-amser ym mis Medi, mae angen cynllun i ddarparu addysg fwy strwythuredig, ag addysgu ar-lein yn rheolaidd, gwell adborth am waith, mwy o ryngweithio ag athrawon, a chymorth gweithredol i deuluoedd gan roi blaenoriaeth i'r disgyblion hynny sydd ddim wedi bod yn ymwneud â'u haddysg hyd yn hyn.  

Mae angen i'r Gweinidog Addysg gyhoeddi cynllun lliniaru penodol ar fyrder. Mae angen eglurder ynghylch y cyllid canlyniadol a ddylai ddod i Gymru o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf ynglŷn a chyllid ychwanegol ar gyfer addysg.  

"Bydd y sefyllfa sydd ohoni'n effeithio ar addysg ac iechyd meddwl pobl ifanc heddiw am amser maith. Mae angen i'r Llywodraeth weithio gyda'r Comisiynydd Plant ac eraill megis Barnardo's Cymru a Gweithredu dros Blant i fapio ymyriadau effeithiol y gellir eu rhoi ar waith ym mis Medi.

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd