PLAID YN HERIO’R PRIF WEINIDOG AR WYTNWCH Y POST BRENHINOL.

Hywel Williams yn amlygu effaith Covid ar wasanaethau post lleol.  

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams wedi galw ar y Prif Weinidog Boris Johnson i adolygu gwytnwch y Post Brenhinol, wrth i achosion o Covid-19 ymhlith staff rheng flaen achosi oedi difrifol i wasanaethau. 

Cyfeiriodd Mr Williams at swyddfa ddidoli Caernarfon fel enghraifft o ble mae achos diweddar o Covid-19 ymhlith staff y Post Brenhinol wedi cael effaith sylweddol ar wytnwch gwasanaethau post yn yr ardal. 

Bu problemau sylweddol efo danfoniadau a chasgliadau lleol ar draws rhannau o etholaeth Arfon yn dilyn i naw aelod o staff y swyddfa ddidoli brofi’n bositif efo Covid-19, gyda sawl un arall yn cael eu gorfodi i hunan-ynysu. 

Wrth holi'r Prif Weinidog, dywedodd Hywel Williams AS: 

‘Mae oedi difrifol wedi bod efo llythyrau, pecynnau a pharseli pwysig yn ardal Caernarfon oherwydd achos o Covid-19 ymhlith gweithwyr post.' 

'Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ymuno â mi i ddymuno gwellhad buan i'r gweithwyr yma.' 

'Ond pa gamau y mae ei lywodraeth wedi'u cymryd yn ystod yr argyfwng iechyd i sicrhau fod y Post Brenhinol, a oedd unwaith yn esiampl flaengar o wasanaeth cyhoeddus, ond sydd bellach wedi'i breifateiddio, yn ddigon cadarn i gyflawni ei ddyletswydd i'r cyhoedd?' 

Ychwanegodd Hywel Williams AS: 

'Mae staff rheng flaen y gwasanaeth post wedi bod yn gweithio'n hynod o galed trwy gydol y pandemig, gan sicrhau bod danfoniadau a chasgliadau yn cael eu cynnal gyda chyn lleied o drafferth â phosib.' 

'Ond mae Covid-19 yn cael effaith sylweddol ar wytnwch y gwasanaeth mewn rhannau o Arfon, gyda gweithwyr i ffwrdd yn sâl, ac eraill yn hunan-ynysu. Yn anochel, mae hyn wedi arwain at oedi enfawr efo derbyn llythyrau a pharseli.' 

'Rwy'n gwybod bod gan rai o fy etholwyr bryderon y byddant yn colli allan ar eu brechiadau Covid-19, er fy mod bellach wedi cael sicrwydd bod ffyrdd amgen ar waith i gyrraedd pobl, megis dros y ffôn neu drwy weithwyr iechyd cymunedol.' 

'Fodd bynnag, mae'n ddealladwy bod pobl yn bryderus, a gyda mwy o bobl yn gweithio o adref, dylai cynnal gwytnwch y gwasanaeth post fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth.'  

'Gydag adroddiadau o broblemau tebyg ar draws rhannau eraill o'r DU, mae'n amlwg, beth bynnag fo'r mesurau wrth gefn, nad ydyn nhw'n ddigonol i gynnal gwasanaethau post, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, rhag problemau sy'n gysylltiedig â Covid.' 

'Rhaid i'r llywodraeth a'r Post Brenhinol lunio cynlluniau mwy cadarn ar frys, fel nad ydym yn wynebu'r un trafferthion pe bai staff rheng flaen i ffwrdd o'r gwaith eto yn y dyfodol.' 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-02-03 14:13:01 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd