Plaid yn rhybuddio o ddirywiad iechyd meddwl hawlwyr budd-dal

ASau Gwynedd yn galw am gefnogaeth wedi ei dargedu i bobl fregus.

Mae ASau Plaid Cymru Gwynedd Hywel WilliamsLiz Saville Roberts yn rhybuddio bydd newidiadau sydd ar fin digwydd i fudd-daliadau etifeddol yn effeithio’n anghymesurol ar bobl sy’n byw a phroblemau iechyd meddwl yng Ngwynedd, wrth i’r Adran Gwaith a Phensiynau symud holl hawlwyr i Gredyd Cynhwysol.  

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn bwriadu dweud wrth bob hawliwr bod ganddyn nhw derfyn amser o dri mis i wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu wynebu colli eu budd-dal yn gyfan gwbl, p’un a ydyn nhw wedi llwyddo i symud i Gredyd Cynhwysol ai peidio. 

Mae’r ASau Plaid Cymru wedi rhybuddio y gallai pobl â phroblemau iechyd meddwl a’r rhai a allai fod yn rhy sâl i ymgysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau gael eu gadael heb unrhyw fodd o dalu eu rhent, prynu bwyd neu dalu biliau ynni. Yn ystod argyfwng costau byw, mae hyn yn peryglu incwm cyfan pobl. 

Dengys ffigyrau o Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin bod 5,823 o aelwydydd yng Ngwynedd yn dal i dderbyn budd-daliadau etifeddol a chredydau treth. 2,837 yn Nwyfor Meirionnydd a 2,986 yn Arfon. Mae 41% o hawlwyr budd-daliadau yng Nghymru eto i gael eu symud i Gredyd Cynhwysol. 

Dywedodd Hywel Williams AS a Liz Saville Roberts AS:  

'Ar hyn o bryd mae 5,823 o bobl yng Ngwynedd yn derbyn budd-daliadau etifeddol sy'n wynebu cael eu symud i Gredyd Cynhwysol.' 

'Mae llawer o'r bobl hyn yn fregus ac yn dioddef problemau iechyd meddwl a chorfforol dwys. Gall rhai fod yn rhy sâl i lenwi ffurflenni neu ddim yn deall y broses y gofynnir iddynt ei dilyn. Iddynt hwy, mae parhad cymorth ariannol yn hanfodol.' 

'Bydd yr argyfwng costau byw yn ychwanegu at y pryder a'r ansicrwydd y mae llawer o hawlwyr yn ei deimlo bob dydd. Y peth olaf sydd ei angen arnynt yw bygythiadau y bydd eu budd-daliadau yn cael eu hatal ymhen tri mis gyda chymorth cyfyngedig gan y llywodraeth.' 

'Mae peryglu eu hincwm trwy osod terfynau amser a disgwyl iddynt brosesu gwybodaeth gymhleth yn afresymol. Nid oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd i gofrestru hawliad tra bod llawer o hawlwyr sydd ag anghenion iechyd hirdymor angen cymorth parhaus.' 

'Ni ddylai unrhyw un sy'n destun trosglwyddiad o daliadau budd-dal etifeddol i Gredyd Cynhwysol gael eu budd-dal presennol wedi'i atal nes eu bod wedi sefydlu hawliad i Gredyd Cynhwysol.' 

'Mae budd-dal etifeddol fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn achubiaeth i'n hetholwyr mwyaf bregus, gyda nifer ohonynt a iechyd meddwl gwael iawn ac maent yn dioddef nifer o gyflyrau iechyd. Yr hyn sydd ei angen arnynt yw cymorth, nid straen pellach, ac ansicrwydd.' 

'Rydym yn galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i gymryd cyfrifoldeb a darparu cymorth wedi'i dargedu i hawlwyr, yn enwedig y rhai sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, yn lle gosod terfynau amser afresymol.' 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2022-05-17 13:49:21 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd