Plaid yn rhybuddio y gallai'r cwricwlwm newydd arwain at "loteri cod post"

Bydd peidio â gwneud hanes Cymru yn orfodol yn arwain at anghydraddoldebau meddai Siân Gwenllian AS

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y gallai'r cwricwlwm newydd droi'n "loteri cod post" os na chaiff hanes Cymru ei gynnwys fel elfen orfodol ar wyneb y bil.

 

Dywedodd y Gweinidog Addysg Cysgodol, Siân Gwenllian AS, y byddai peidio â chynnwys hanes Cymru, gan gynnwys hanes pobl dduon a phobl groenliw, fel rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd a darparu adnoddau a hyfforddiant i athrawon yn arwain at loteri cod post.

 

Mae'r blaid wedi cyflwyno gwelliant i'r bil a gaiff ei drafod yn nes ymlaen heddiw yn ystod Pwyllgor Addysg y Senedd.

 

Dywedodd Dr Dan Evans, ymchwilydd addysg sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chynllunio'r cwricwlwm newydd, y byddai peidio â gwneud y pwnc yn orfodol yn arwain at “ddarpariaeth glytwaith [...] yn dibynnu ar alluoedd ysgolion ac athrawon sydd wedi'u gorestyn yn barod”. Cyhuddodd Mr Evans Lywodraeth Cymru o beidio â deall realiti addysgu.

 

Mewn adolygiad o addysg hanes Cymru gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ym mis Tachwedd 2019, codwyd pryderon am addysg hanes Cymru, ac argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig o ‘gynnwys a safon addysgu hanes yn ein hysgolion’. Nododd yr adolygiad ‘mae angen tystiolaeth gadarn o natur a graddau'r addysgu presennol cyn y gellir gwneud asesiadau fel sail i ddarparu Cwricwlwm Cymru 2022’.

 

Mae'r adolygiad hwn wedi cael ei ohirio, fodd bynnag, oherwydd y tarfu ar addysgu yn ystod y pandemig, ac nid oes disgwyl iddo gael ei gwblhau tan hydref 2021.

 

Meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS,

 

"Mae Plaid Cymru wedi galw ers amser maith am gynnwys hanes Cymru fel elfen orfodol yn y cwricwlwm newydd.

 

"Mae gwybod a deall treftadaeth Cymru a'n lle yn y byd yn hawl y mae pob disgybl yng Nghymru yn ei haeddu, ac yn hanfodol i sicrhau bod disgyblion Cymru yn 'ddinasyddion gwybodus o Gymru a'r byd', fel y mae'r bil yn ei argymell. Felly, mae angen i stori genedlaethol Cymru, gan gynnwys hanes pobl dduon a phobl groenliw, fod yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd - wedi'i gynnwys ar wyneb y Bil ac mae angen rhoi adnoddau a hyfforddiant i athrawon i ategu hyn. Mae'n destun gofid difrifol bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y syniad hwn dro ar ôl tro.

 

"Ni allwn adael i'n plant a'n pobl ifanc wynebu loteri cod post o ran y cwricwlwm newydd – a bydd hynny'n anochel heb roi corff gwybodaeth gorfodol a chyffredin i ysgolion ei addysgu."

 

Meddai'r Ymchwilydd Addysg Dr Dan Evans,

 

"Os na fydd hanes Cymru yn elfen orfodol ar y cwricwlwm newydd, bydd diffyg arweiniad i ysgolion ynglŷn â'i addysgu a'i roi ar waith, ac yn y pen draw, bydd yn annhebygol iawn o gael ei addysgu mewn gwirionedd. Mae gwrthod gwneud addysgu hanes Cymru yn orfodol yn golygu y bydd gennym ddarpariaeth glytwaith, lle bydd addysgu hanes Cymru yn dibynnu ar alluoedd ysgolion ac athrawon sydd wedi'u gorestyn yn barod, gan arwain at ddiffyg cysondeb.

 

"Mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru yn deall realiti addysgu a phrinder yr amser a'r adnoddau sydd ar gael i athrawon o ganlyniad i doriadau cyllid dros y degawd diwethaf.

 

"Dylem ddysgu gwersi o roi'r Cwricwlwm Cymreig ar waith. Roedd gan hwnnw botensial anhygoel i ddatblygu ymdeimlad dinesig o hunaniaeth Gymreig ymysg disgyblion, ond ni chafodd ei roi ar waith yn iawn. Ni chafodd athrawon ddigon o wybodaeth nac adnoddau, ac ni chyflawnwyd ei nodau o ganlyniad i hynny.

 

"Bydd hanes Cymru yn wynebu'r un dynged os na chaiff ei roi ar waith yn iawn a'i wneud yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-02-01 13:51:49 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd