Pobl ag anableddau dwys yn parhau i ddidsgwyl am eglurder ynghlych Canolfan Asesiadau.

Dim darpariaeth i hawlwyr PIP yng nghanolfan asesu budd-dal Bangor wrth i'r AS lleol alw am weithredu. 

Mae AS Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi cyhuddo’r Adran Gwaith a Phensiynau o ddiystyru anghenion cymhleth pobl fregus wrth iddi ddod i’r amlwg na fydd gan ganolfan asesu budd-daliadau newydd yng nghanol dinas Bangor unrhyw ddarpariaeth ar gyfer hawlwyr PIP.

Mewn ymateb i lythyr gan Hywel Williams AS, cadarnhaodd y Gweinidog Gwaith a Phensiynau y Farwnes Stedman-Scott nad oes unrhyw gynlluniau i gynnal asesiadau PIP ar gyfer hawlwyr bregus yn y lleoliad newydd yng nghanol y ddinas.

Bydd y safle asesu newydd yng Nghanolfan Menai ar gyfer y rhai sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, ESA, Budd-dal Anafiadau diwydiannol a Veterans UK yn unig. 

 

Dywedodd Hywel Williams AS

'Mae ateb y Gweinidog yn dangos diystyrwch a difaterwch syfrdanol yr Adran Gwaith a Phensiynau tuag at anghenion hawlwyr ag anabledd difrifol yn fy etholaeth ac ar draws gogledd orllewin Cymru.'

'Mae cyd-leoli gwasanaethau budd-daliadau mewn safle hygyrch canolog ym Mangor yn gynnydd, ond mae gwneud hynny heb ddarpariaeth ar gyfer hawlwyr PIP ag anabledd difrifol sy'n dibynnu ar hygyrchedd a chysylltiadau trafnidiaeth dibynadwy yn hollol anghywir.'

'Mae’r ffaith bod llywodraeth y DU yn llaesu dwylo i gywiro'r anghyfiawnder hwn a gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anabledd difrifol yn ddim llai na gwarth.'

'Roedd symud y ganolfan asesu PIP o'r ardal heb unrhyw rybudd yn ddigon drwg, ond mae dod â gwasanaethau budd-daliadau ynghydo dan yr un to, ond gan eithrio anghenion hawlwyr PIP, nid yn unig yn enghraifft o golli cyfle amlwg ond mae'n ymestyn ansicrwydd i'r mwyaf bregus.'

'Gan fod disgwyl i bobl anabl fyw â’r system hon, mae gwir angen cynnydd gwirioneddol o ran dod o hyd i safle addas, hygyrch ar gyfer y ganolfan.'

'Dylai unrhyw benderfyniad ar ddyfodol y ganolfan bwysig hon fod â buddiannau hawlwyr anabl wrth ei wraidd, gan gynnwys y cyfyngiadau ar eu gallu i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i apwyntiadau.'

'Byddaf yn galw am drafodaethau pellach â llywodraeth y DU i lobïo am weithredu ar yr anghyfiawnder sylfaenol hwn. Mae'n hen bryd i'r Adran Gwaith a Phensiynau symud ar hyn fel y gall pobl fregus gael rhywfaint o sicrwydd.’

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd