Prif Weinidog Cymru yn wfftio ymchwiliad cyhoeddus i sgandal fasgiwlar.

AC Arfon yn cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o anwybyddu tystiolaeth o fethiannau Betsi. 

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon Siân Gwenllian wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o ddiystyru tystiolaeth ddamniol sy’n amlygu methiannau difrifol yng ngofal fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wrth iddo wrthod cynnal ymchwiliad annibynnol i’r sgandal.

Galwodd Siân Gwenllian AC ar lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad trylwyr ac annibynnol i wasanaethau fasgwlaidd gogledd Cymru, yn dilyn adroddiad hynod ddamniol gan Gyngor Iechyd Cymunedol gogledd Cymru a ddarganfu nad oedd gan gleifion hyder ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.      

Er gwaethaf tystiolaeth o fethiannau difrifol yn ymwneud â gwasanaethau fasgwlaidd, gwrthododd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford alwadau am ymchwiliad annibynnol i’r sgandal, gan ganiatáu i’r Bwrdd Iechyd gynnal ei ymchwiliad mewnol ei hun.

Cododd Siân Gwenllian AC y mater yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw.   

 

Dywedodd Siân Gwenllian AC,  

‘Mae’n annealladwy fod y Prif Weinidog yn gwrthod galwadau am ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r sgandal hon, yng ngwyneb tystiolaeth amlwg o fethiannau systematig.’

‘Mae gwrthod yr alwad am ymchwiliad annibynnol yn nodweddiadol o amharodrwydd llywodraeth Cymru i wynebu cyhuddiadau o ddiffygion difrifol ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.’

‘Mae cleifion, eu teuluoedd a staff yn haeddu tryloywder llawn, ond yr hyn y maent yn ei gael yw anonestrwydd ac ymgais i geisio anwybyddu pryderon dilys am ddiogelwch cleifion.’ 

‘Os yw’r Prif Weinidog wedi ei berswadio fod bwrdd iechyd sy’n methu yn ymchwilio iddo’i hun yn ddigonol, yna mae hyn yn codi cwestiynau difrifol am ei gymhwysedd.’ 

‘Mae angen ymchwiliad annibynnol brys arnom, mae’r cyhoedd angen ac yn haeddu sicrwydd.’ 

‘Ni ddylid anwybyddu hyn. Mae yna broblemau sylweddol a difrifol, a dim ond ymchwiliad annibynnol llawn fydd yn ddigonol.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd