Hywel Williams AS yn arwain ymgyrch yn erbyn prisiau ynni annheg.
Derbyniodd Hywel Williams AS ateb i gwestiwn ysgrifenedig at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd oedd yn gofyn:
"Pa amcangyfrif a wnaeth ef o wahaniaethau rhanbarthol yng nghost trydan i ddefnyddwyr domestig."
Gallwch weld yr ateb yn y graff isod.
Mae Cymru yn cynhyrchu mwy o drydan nac a ddefnyddiwn; yr ydym yn allforio ynni ac eto, rydym yn talu mwy nac unrhyw ran arall o Brydain Fawr ac eithrio gogledd yr Alban (a bach iawn yw'r gwahaniaeth rhyngddom!)
Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro am Gwmni Ynni nid-am-elw, tebyg i fodel Glas Cymru sy’n berchen ar Dŵr Cymru. Byddai hyn yn sicrhau pris teg i gwsmeriaid ledled Cymru. Gallwch ganfod mwy am y polisi yma.
Am fwy o wybodaeth am bolisi ynni Plaid Cymru, cysylltwch â [email protected]
Yr ateb llawn
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter