Pwyso ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd wrth i fwciadau gwyliau yn Eryri barhau er gwaethaf rhybuddion.

Mae AS Plaid Cymru ar gyfer Arfon Hywel Williams a'r AC Sian Gwenllian wedi galw ar lywodraeth Llafur Cymru i gyflwyno cyfarwyddeb i'r asiantau gosod gwyliau Booking.com ac AirBNB i roi'r gorau i dderbyn bwciadau ar gyfer eiddo yng Ngwynedd ar unwaith.

Mae'r AS a'r AC wedi cael eu boddi gan alwadau gan etholwyr lleol sy'n pryderu bod eiddo gwyliau yn yr ardal yn dal i dderbyn bwciadau er gwaethaf cyfarwyddeb swyddogol gan y Llywodraeth yn erbyn unrhyw deithio nad yw'n hanfodol.

Nawr, mae Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AC wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i roi cyfarwyddyd ar unwaith i bob darparwr AirBNB a hostel lleol ac i Booking.com i roi'r gorau i hysbysebu eu heiddo er mwyn atal unrhyw deithio nad yw'n hanfodol yn yr ardal.

Hefyd, cododd Hywel Williams y mater heddiw yng nghyfarfod briffio'r Llywodraeth gyda'r Tâl-feistr Cyffredinol a gytunodd i edrych ar y peth.

 

Meddai Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AC,

'Rydym yn deall bod gwefannau bwcio gwyliau megis AirBNB a Booking.com yn parhau i alluogi pobl i fwcio llety yma yn Eryri er gwaethaf canllawiau swyddogol yn erbyn teithio anhanfodol i'r ardal.'

'O'n hymchwil ni, rydym wedi canfod llawer o ddarparwyr llety lleol sy'n parhau i dderbyn gwesteion. Mae hyn yn destun pryder mawr o ystyried bod y penwythnos wedi dod ac y bydd pobl sy'n ceisio dianc o fannau poblog o dan gamargraff bod Eryri ar agor ar gyfer busnes; nid yw hynny'n wir.'

'Oni chymerir camau pendant ar unwaith, bydd y sefyllfa'n rhoi mwy o anogaeth i bobl nad ydynt yn meddwl bod angen aros gartref i deithio i Gymru. Rydym yn derbyn tystiolaeth anecdotaidd bod ymwelwyr yn dal i gyrraedd a bod darparwyr llety yn Eryri yn dal i dderbyn bwciadau.'

'Rydym yn galw ar lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfarwyddyd ar unwaith i AirBNB ac asiantaethau megis booking.com i roi'r gorau i unrhyw hysbysebu ar eu safleoedd sy'n denu ymwelwyr i deithio yma. Ni ddylid annog ymwelwyr i deithio i Gymru yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.'

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd