Rhaid osgoi creu gofid tebyg ar gyfer disgyblion TGAU

Dim mwy o newidiadau unfed-awr-ar-ddeg ar gyfer myfyrwyr sy'n aros am eu canlyniadau medd Plaid Cymru.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru Siân Gwenllian AS:

“Rhaid bod yn fwy trugarog o lawer tuag at y disgyblion TGAU sy'n aros am eu canlyniadau wythnos nesaf a'i thrin yn well na'r rhai sy'n cael eu canlyniadau Lefel-A a dylid cyhoeddi unrhyw newidiadau yn gynt yn hytrach na'n hwyrach.

“Fe ychwanegodd y newidiadau munud olaf i brosesau graddio Lefel-A at y tensiynau ar gyfer pobl ifanc wrth iddyn nhw ddisgwyl am eu canlyniadau mewn cyfnod sydd eisoes yn eithriadol o bryderus. Mae hi mor bwysig nad yw'r un peth yn digwydd i ddisgyblion TGAU. 

“Rwy'n croesawu'r newidiadau sydd ar y gweill ar gyfer y broses apeliadau a fydd bellach am ddim, diolch i bwysau a roddwyd gan Plaid Cymru dros y dyddiau diwethaf. 

“Rhaid i'r broses apelio newydd fod yn gadarn ac eang a rhaid cyhoeddi'r canllawiau newydd cyn gynted â phosib.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd