Rhaid sefyll i fyny i'r hiliaeth sydd yn ein plith. Plaid yn condemnio gweithred hiliol.

Datganiad ar y cyd gan Aelod o Senedd San Steffan dros Arfon Hywel Williams ac Aelod o Senedd Cymru Sian Gwenllian yn dilyn gweithred hiliol yn erbyn teulu o Benygroes.  

Dywedodd Hywel Williams AS, 
 
'Rwy'n sefyll mewn undod â'r teulu ac yn ategu’r feirniadaeth gryf gan y gymuned leol.'
'Rwy'n gwybod bod pobl Penygroes ac Arfon wedi eu ffieiddio gan y weithred afiach hon. Ond bydd yn cryfhau ein pendantrwydd i sefyll gyda'n gilydd yn erbyn hurtrwydd ffiaidd hiliaeth.'
‘Targedwyd ein swyddfa â graffiti hiliol y llynedd. Roedd yn annifyr ac yn annymunol. Ond mae hyn gymaint yn waeth, gan ei fod wedi ei dargedu'n bersonol at gartref rhywun.'
'Mae gennym gymuned gref yma yn Arfon, wedi'i chyfoethogi gan amrywiaeth a'n traddodiad o sefyll gyda'n gilydd yng ngwyneb gwahaniaethu.'
'Bydd pwy bynnag a wnaeth hyn yn dysgu'n eithaf cyflym bod cymdeithas oddefgar yn gryfach o lawer na'r anhrefn rhanedig y maent yn dyheu amdano.'
Dywedodd Sian Gwenllian AS, 
'Roedd hon yn weithred atgas o gasineb hiliol. Mae’n anodd credu sut a pham y byddai person yn mynd ati yn holl bwrpasol i gario allan y weithred hiliol hon.'
'Pam yn y byd y byddai un bod dynol yn credu fod ganddo ’r hawl i ddiraddio person arall dim ond am mai du yw lliw eu croen?'
'Fedra i ddim ateb y cwestiwn hwn. Fedra i ddim dirnad pan byddai rhywun yn gweithredu fel hyn. Ond rwyf yn ei gondemnio o waelod fy nghalon fel mae eraill wedi wneud.'
'Y gwirionedd trist yw fod hyn yn tanlinellu fod hiliaeth ym mhob man. Mae yn ein cymunedau. Mae ymhlith ein pobl.' 
'Nid mater wedi ei gyfyngu i Minneapolis a’r heddlu yn yr UDA. Nid yw wedi ei gyfyngu i’r carfannau de-eithafol  fu’n casglu yn Parliament Square Llundain penwythnos diwethaf.'
'Yn anffodus, mae o yn ein plith yma yn Arfon ac mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i roi stop arno yn syth.'  
'Mae rhaid i ni gyd fod yn rhan o’r ymdrech enfawr sydd ei  hangen fel nad oes raid i’r un teulu arall wynebu’r hyn mae’r  teulu Ogunbanwo wedi ei ddioddef ym Mhenygroes.'  

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd