Rhanbarth newydd ar gyfer y Gymru Orllewinol

sianacadam.png

ACau Plaid Cymru yn amlinellu gweledigaeth gyffrous ar gyfer datblygiad economaidd a chynllunio ieithyddol yn y gorllewin

Wrth i Gymru gychwyn ar gyfnod newydd o drefn llywodraeth ranbarthol, mi fydd Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price a Siân Gwenllian, yn datgelu eu gweledigaeth i drawsffurfio datblygiad economaidd a chynllunio ieithyddol yng ngorllewin Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon.
 
Cyn i Lywodraeth Cymru weithredu map newydd ar gyfer llywodraeth leol ranbarthol y flwyddyn nesaf, mi fydd cynrychiolwyr Plaid Cymru yn cyflwyno syniadau ar gyfer creu rhanbarth Gorllewin Cymru gydag awdurdodau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd a Môn yn ffurfio'r conglfeini.
 
Mi fydd Adam Price a Siân Gwenllian yn dweud bod gan y pedair sir orllewinol nifer o nodweddion cyffredin a fydd yn rhoi pwrpas i awdurdod rhanbarthol newydd:
  • Canran uchel o siaradwyr Cymraeg
  • Mewnlifiad pobl hyn, all-lifiad pobl ifanc
  • Gwledig, dibyniaeth ar amaeth, bwyd a thwristiaeth
  • Trefi marchnad a threfi prifysgol
  • Canran uchel o swyddi yn y sector cyhoeddus
  • Cyflogau isaf ym Mhrydain, ac ymhlith yr isaf yn Ewrop
"Mi fydd map rhanbarthol newydd yn llunio dyfodol datblygiad economaidd, trafnidiaeth a'r cyflenwad o wasanaethau cyhoeddus am flynyddoedd." dywedodd Adam Price AC wrth ychwanegu ei fod yn "hanfodol i greu'r adeiladwaith a wnaiff ffyniant a bywiogrwydd gorllewin Cymru yn ganolbwynt, nid ar gyrion rhanbarthau dwyrain-gorllewin traddodiadol."

Mi fydd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn defnyddio ei gyfraniad yn yr Eisteddfod i gylchredeg y syniad i'r awdurdod gael y pwerau i greu 'toll twristiaeth' gyda £1 fesul ymwelydd y noswaith yn cael ei ail-fuddsoddi yn yr iaith leol a datblygiad economaidd.


Dros amser gallai'r awdurdod rhanbarthol cymryd y camau canlynol:
  • ​Cynnig Bargen Twf (Growth Deal) i'r Gorllewin i Lywodraeth y DU
  • Dechrau paratoi ar gyfer cynigion ar y cyd i Gronfa Ffyniant Newydd Llywodraeth y DU
  • Creu Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y Gorllewin Cymraeg
  • Creu Strategaethau sector-benodol e.e. i amaeth-fwyd
  • Creu Academi Twristiaeth gyda Gwesty gweithiol yn dysgu lletygarwch drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Creu Banc Cymunedol i'r Rhanbarth
  • Creu Cynllun Iaith Cyfansawdd ar draws y Rhanbarth ac ar draws y sector cyhoeddus o fewn y Rhanbarth
  • Creu cynllun Uno De na Gogledd, drwy lobio a chyd-ariannu gyda Llywodraeth Cymru (drwy fondiau) ail-agor llinellau rheilffordd Aber-Caerfyrddin a Phwllheli-Caernarfon, a buddsoddi yn yr A487 a'i droi y goridor ffibr-optig ar gyfer cysylltedd gig-a-byte (cymharer llwyddiant yr hen Bwyllgor Sefydlog ar gyfer Blaenau'r Cymoedd)
  • Datganoli sylweddol o bwerau o'r Cynulliad – fel yn achos datganoli i Faeri etholedig Lloegr
  • Model o awdurdod cyfun a Maeri etholedig fel posibiliadau i'w drafod o ran llywodraethiant
  • Creu asiantaeth neu gorfforaeth ddatblygu rhanbarthol i fod yn gyfrifol am waith generadu e.e. Prosiect Ardal Y Fenai
Yn siarad cyn ei araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol dywedodd Adam Price AC:

"Gellid dadlau bod yr heriau a wynebir yng ngorllewin Cymru- yr economi, tai, cysylltedd a chynllunio- yn berthnasol i Gymru gyfan.  Ond o safbwynt economaidd, gwleidyddol ac ieithyddol mae'r gorllewin wedi cyrraedd adeg dyngedfennol.

"Mae yna batrwm clir o ddirywiad economaidd a dirywiad ieithyddol yn ardaloedd y Gorllewin. Mae'r cysylltiad rhwng y ddau beth i'w weld yn glir yn lefelau all-boblogi pobl ifainc.  Mae yna hefyd tystiolaeth o ddiffyg buddsoddiad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru yn ardaloedd y De a'r Gogledd-orllewin. 

"Mae yna gydnabyddiaeth hyd yn oed gan Aelodau Llafur nad oes ganolbwynt ar anghenion unigryw Cymru wledig yn strategaeth economaidd y Llywodraeth ar hyn o bryd, ac mae yna duedd i or-bwysleisio'r cysylltiadau Gorllewin-Dwyreiniol a thraws-ffiniol gyda Lloegr yn ein strategaeth economaidd genedlaethol gan israddio cysylltiadau'r De a Gogledd.  Dyma ein cyfle i greu'r amodau i fynd i'r afael â'r materion yma."

Dywedodd Sian Gwenllian, llefarydd y Blaid ar y Gymraeg a llywodraeth leol: 


"Ar ôl i Lywodraeth Cymru amlinellu ymrwymiad yn ddiweddar yn ei chynigion Cymraeg 2050 i gysylltu ymdrechion i gryfhau'r iaith Gymraeg â thyfiant economaidd a buddsoddiad llywodraeth, nid ond dymunol yw awdurdod ar gyfer y Gymru orllewinol - ardaloedd a fydd efallai yn chwarae'r swyddogaeth fwyaf i gyrraedd y nod o 1 miliwn o siaradwyr - byddwn yn dadlau ei fod yn angenrheidiol.

"Nawr yw'r amser i ni fod yn fentrus drwy gyflawni dyfodol llwyddiannus i'r gorllewin. Yn ein cyfraniad i'r Eisteddfod yr wythnos hon, mi fydd Adam Price a minnau yn amlinellu sut y gallwn ddod ag egni newydd i strategaeth economaidd yng Nghymru, gan gysylltu ein hiaith a threftadaeth genedlaethol â gweledigaeth economaidd."

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd