Rhoi stop ar driniaeth ar gyfer cleifion iechyd meddwl yn 'sgandal' yn ôl AS

Heddiw mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi beirniadu nad yw rhai cleifion iechyd meddwl yn derbyn triniaeth briodol yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ystod pandemig Covid-19. Disgrifiodd y sefyllfa fel ‘sgandal’, a honnodd ei bod yn ‘gwbl annerbyniol bod meddygon yn BCUHB yn cael cyfarwyddiadau i adael i gleifion iechyd meddwl fynd.’
 
Nododd yr AS Plaid Cymru y gallai ddeall y pwysau y mae'r pandemig presennol wedi'i roi ar y gwasanaeth iechyd, ac y gallai fod peth oedi cyn cael triniaeth, ond aeth ymlaen i ddweud ei bod yn amlwg na ddylai'r penderfyniad i adael cleifion i fynd fod wedi digwydd.
 
Mae Siân Gwenllian wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys o’r sefyllfa, gan ryddhau ystadegau ar y nifer o gleifion a adawyd i fynd, yn ogystal â sicrhau y gall eu triniaeth ailddechrau ar frys. Mae hi hefyd wedi galw am sicrwydd o fuddsoddiad ychwanegol parhaus yn y system gofal iechyd meddwl.
 
Daw’r alwad wedi i Weinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth AS ddweud fod problemau’n codi gyda phroblemau iechyd meddwl yn parhau heb eu trin, neu heb ddiagnosis o gwbl oherwydd yr argyfwng presennol ac y dylai Llywodraeth Cymru fod yn edrych ar ffyrdd i “gynyddu cefnogaeth” i’r rheini â phroblemau iechyd meddwl, yn hytrach na bod cleifion yn cael eu gadael heb gymorth.
 

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd