Rhowch liniaduron am ddim i blant sydd nawr yn gweithio o gartref.

Plaid Cymru yn galw am liniaduron a mynediad ddim i'r rhyngrwyd i blant sydd yn awr yn dysgu o gartref am i'r ysgolion gau oherwydd Coronafirws. 

Mae Gweinidog Addysg  cysgodol  Plaid Cymru, Sian Gwenllian, AC, wedi dweud y dylai pob plentyn o oedran ysgol sydd heb liniadur gael un am ddim er mwyn dysgu gartref, wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd ysgolion yn cau o ddyddiau Gwener ymlaen.
 
Ychwanegodd Ms Gwenllian y dylid darparu'r rhyngrwyd am ddim hefyd i bob aelwyd sydd â phlant o oedran ysgol sydd  "heb fynediad ar hyn o bryd" at y rhyngrwyd. 
 
Wrth groesawu'r cyhoeddiad ddoe y bydda'i ysgolion yn cau am ddarpariaeth statudol, dywedodd y Gweinidog Addysg cysgodol fod angen "mwy o eglurder a chanllawiau cliriach" am y math o gefnogaeth y byddai ar rieni a gwarcheidwaid angen ac y byddent yn   ei ddisgwyl. 
 
Gan ddweud yn gallai ysgolion fod ar gau ar gyfer dysgu am gyfnod amhenodol, dywedodd Ms Gwenllian y dylai pob plentyn allu mynd at "adnoddau dysgu o bell " gan gynnwys gliniadur  a mynediad i'r rhyngrwyd am ddim.
 
Er bod Ms Gwenllian yn cydnabod na fydd hyn, efallai, yn "flaenoriaeth yn syth", dywedodd y gallai Llywodraeth Cymru weithredu ar y cynllun hwn yn awr.
 
Meddai Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru  , Sian Gwenllian, AC:
 
"Dylai plant o oedran ysgol nad oes ganddynt liniadur unigol gael un am ddim i  ddysgu o gartref.
"Dylai'r rhyngrwyd hefyd gael ei ddarparu am ddim i bob aelwyd â phlant o oedran ysgol sydd hebddo ar hyn o bryd. 
 
"Yr ydym yn croesawu cau ysgolion am ddarpariaeth statudol, ond mae ar nominated angen o hyd fwy o eglurder a chanllawiau cliriach gan y Gweinidog Addysg ynghylch y math o gefnogaeth y gall rhieni a gwarcheidwaid ddisgwyl. 
 
"Wyddom ni ddim am ba hyd yr erys  yr ysgolion ar gau. Efallai y bydd angen dysgu plant yn electronig neu o bell am amser amhenodol.  I'r perwyl hwnnw, dylai pob plentyn allu cyrchu adnoddau dysgu o bell  gan gynnwys gliniadur unigol a rhyngrwyd am ddim. 
 
"Er nad yw hyn, efallai, yn flaenoriaeth yn syth, gydag ysgolion yn hynod brysur yn gwneud trefniadau ar gyfer plant gweithwyr allweddol yn y sector cyhoeddus, ond mae'n fater y  gallai Llywodraeth Cymru ddewis ei ystyried a dechrau gweithredu arno.
 
"Ni ddylai'r pandemig Coronafirws olygu fod addysg plant yn dioddef. Ni ddylai'r un plentyn gael ei adael ar ôl."

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Kim Thomas
    commented 2020-03-25 08:06:23 +0000
    My granddaughter, 8, doesn’t have a laptop; iPad or ’phone

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd