Corff rhyngwladol yn rhybuddio yn erbyn dileu swydd y Comisiynydd Iaith

sian_gwenllian.jpg

“Mae ymdrechion y llywodraeth Lafur i ddileu swydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn annoeth ac fe fydd yn gwanhau hawliau siaradwyr Cymraeg" meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg, Sian Gwenllian.

 

 

Mae llythyr sydd wedi ei ryddhau oddi wrth Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith wedi datgelu cwestiynau pwysig am oblygiadau dileu swydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg. Dywed y llythyr, a lofnodwyd gan Is-Gadeirydd y Gymdeithas, Rónán Ó Domhnaill ac a gafwyd gan AC Plaid Cymru Adam Price nad oes “gwell corff na Chomisiynydd Iaith unigol i ddal y llywodraeth i gyfrif”.

Wrth grybwyll y llythyr a ddatgelwyd oddi wrth Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith a dderbyniwyd ganddo ef, dywedodd AC Plaid Cymru Adam Price:

“Datganodd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yn glir nad oes “gwell corff na Chomisiynydd Iaith unigol i ddal y Llywodraeth i gyfrif”. Maent yn dweud yn glir eu bod wedi dod i’r casgliad hwnnw o ganlyniad i gyfoeth eu profiad.

“Mae’r Comisiynydd Iaith yn chwarae rhan bwysig o ran rheoleiddio darparu gwasanaethau yn y Gymraeg, ac y mae dileu’r swydd honno bron yn sicr o fod yn andwyol i’r cynnydd cadarnhaol a gafwyd.”

Wrth siarad ar lawr y Siambr, nododd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg, Sian Gwenllian, lwyddiant Comisiynydd yr Iaith Gymraeg a galwodd ar i’r Gweinidog newydd dros yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, i ail-ystyried penderfyniad y llywodraeth i ddileu swydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, gan rybuddio y byddai’n gwanhau hawliau siaradwyr Cymraeg.

Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg, Sian Gwenllian:

“Mae ymdrechion y llywodraeth Lafur i ddileu swydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn annoeth ac fe fydd yn gwanhau hawliau siaradwyr Cymraeg.

“Dim ond flwyddyn ers cyflwyno’r system o safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg, cafwyd llawer o ddatblygiadau cadarnhaol. Mae canfyddiadau siaradwyr Cymraeg am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt wedi gwella, cafwyd cynnydd yn nifer y gwasanaethau teliffon sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg ac y mae mwy o’n cynghorau yn darparu mwy o wasanaethau yn Gymraeg.

“Rydym eisiau adeiladu ar y llwyddiant hwn, ond yn sicr bydd dileu swydd y Comisiynydd yn gam yn ôl.

“Dylai’r Gweinidog newydd dros yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, ail-ystyried penderfyniad y llywodraeth i ddileu swydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd