Sicrhau cefnogaeth i BID Bangor a HWB Caernarfon.

Yn ddiweddar cafodd Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon, gyfle i godi pwysigrwydd yr angen am gefnogaeth i BID Bangor a Hwb Caernarfon gyda Ken Skates, Gweinidog yr Economi. Mae’r ddwy fenter yn gweithio i hybu busnesau a siopau canol tref  o fewn etholaeth Arfon.

Mewn cyfarfod rhithiol o’r Senedd, dywedodd Siân Gwenllian AS fod “Ardaloedd Gwella Busnes yn allweddol i’r gwaith o adfer canolfannau siopa nifer o drefi a dinasoedd ar draws Cymru, ac fe fydd eu gwaith yn hynod werthfawr i ddelio â’r problemau enfawr sy’n wynebu ein Stryd Fawr yn sgil yr argyfwng presennol.”
 
Ychwanegodd fod “£6m o bunnau’n cael ei ddyrannu i BIDs yn Lloegr, fel cymorth tuag at 3 mis o daliadau lefi,” ac fe holodd a oedd arian cyfatebol yn dod i Gymru.
 
Sefydlwyd BID Bangor yn 2015, ac mae wedi datblygu strategaeth i wella'r amgylchedd busnes a gwella twf economaidd yn y ddinas. Mae menter gyfatebol yn bod yng Nghaernarfon, sef Hwb Caernarfon.
 
Gofynodd yr AS Plaid Cymru dros Arfon wrth Weinidog Economi Llywodraeth Cymru, “a oes gan eich Llywodraeth chi fwriad i helpu busnesau yn y 16 o gynlluniau BID sydd, hyd yma, yn parhau i dalu lefi i mewn i’r cynllun?”
 
Wrth ymateb, dywedodd Ken Skates fod “penderfyniad cadarnhaol wedi ei wneud,” ac y bydd yn “rhoi manylion pellach yn y man.”
 
Dywedodd Siân Gwenllian ei bod yn falch o allu sicrhau y bydd cefnogaeth yn cael ei rhoi i fusnesau, ond ei bod yn pryderu fod “gormod o fusnesau’n syrthio rhwng dwy stôl.”
 
Yn dilyn cyfraniad Siân Gwenllian yn y Senedd, mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd ac Helen Mary Jones, Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau “fod cefnogaeth wedi’i thargedu at fusnesau yng Ngwynedd nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd.”

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd