Tai cymdeithasol, carbon isel sydd “dybryd eu hangen” ym Mhenygroes

Mae’r safle yn rhan o’r cynllun ‘See Your Site’

Yn ddiweddar, aeth Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon draw i safle adeiladu 24 o dai cymdeithasol carbon isel ym Mhenygroes, gan alw’r datblygiad yn “gartrefi gwyrdd newydd y mae dybryd eu hangen ar gyfer pobol leol.”

 

Mae’r safle adeiladu yn rhan o’r fenter ‘See Your Site’, safleoedd adeiladu sy’n cael eu hagor i fyfyrwyr addysg bellach y cwrs TGAU Amgylchedd Adeiledig. Mae’n gyfle i’r dysgwyr fentro ‘y tu ôl i’r llenni’ i weld y prosiectau diweddaraf a chael eu hannog i weithio yn y diwydiant.

 

Mae’r 24 tŷ fforddiadwy ym mhentref Penygroes yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes, y Bala, fel rhan o fwriad Grŵp Cynefin i symud tuag at dai carbon isel.

 

Defnyddir dulliau adeiladu cyfoes, a bydd paneli solar a phympiau gwres ffynhonnell aer yn cael eu gosod, sy'n golygu y bydd y cartrefi yn garbon isel ac yn ynni-effeithlon.

 

Dyfarnwyd grant arloesi i’r cynllun trwy Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, sy’n mynd tuag at adeiladu cartrefi carbon isel. Y gobaith yw y bydd tai ar gael o ddechrau 2023.

 

Yn ddiweddar aeth yr Aelod lleol o'r Senedd, Siân Gwenllian AS, draw i’r safle;

 

“Fel yr Aelod lleol o’r Senedd, mae cyfran uchel o ’ngwaith achos yn dod gan bobl leol ar restrau aros ar gyfer tai cymdeithasol neu dai fforddiadwy. Mae'r angen yn argyfynus o uchel. Mae pobl yn aml yn byw mewn amgylchiadau anaddas, gyda rhieni oedrannus neu deulu mawr mewn tŷ bach, er enghraifft.

 

“Dwi’n croesawu datblygiadau fel yr un ym Mhenygroes felly wrth gwrs, a hoffwn ddiolch i Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu am gael ymweld â’r safle.

 

“Bydd y tai yn mynd rhywfaint o'r ffordd at ddiwallu'r angen mawr am gartrefi gwyrdd yn lleol yn Nyffryn Nantlle.

 

“Mae hefyd yn wych clywed fod y safle yn rhan o’r cynllun ‘See Your Site’, sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc gael blas ar y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan y diwydiant adeiladu.

 

“Mae wastad yn newyddion da bod cyflogaeth leol o ansawdd uchel yn cael ei darparu i ieuenctid yn y Fro Gymraeg.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-11-24 16:37:20 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd