Rhaid i’r llywodraeth ddiwygio ei bolisi Cynllunio a’r Gymraeg newydd (TAN20) meddai Sian Gwenllian

sian_g1.jpg

Mae llefarydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg Sian Gwenllian AC,  wedi dweud fod Llywodraeth Cymru yn euog o greu dryswch ynglyn a’i bolisi cynllunio o safbwynt y Gymraeg yn sgil cyhoeddi polisi sy’n gwbwl anghyson a’r ddeddfwriaeth.

Dywed Sian Gwenllian fod yn rhaid i’r Llywodraeth diwygio’i ddogfen cynghorol ar ystyriaethau iethyddol yn y broses cynllunio – NTC 20 (TAN20) – am ei fod yn mynd yn groes i Ddeddf Cynllunio.
Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn rhoi dyletswydd ar gynghorau lleol i ystyried yr effaith ar y Gymraeg ym mhob cais cynllunio, tra bod Nodyn Cyngor Technegol y llywodraeth yn dweud na ddylid fel rheol gynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg.
Dywedodd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg Sian Gwenllian:
“Mae’r llywodraeth yn euog y greu dryswch ar y pwnc yma. Ni ellir cael ddogfen bolisi sydd yn mynd yn groes i’r ddeddf.
“Fe lwyddodd Plaid Cymru i ddiwygio y Ddeddf Cynllunio er mwyn sicrhau fod rhaid ystyried yr effaith ar y Gymraeg ym mhob cais cynllunio – y tro cyntaf erioed i hyn gael ei osod mewn cyfraith – ond mae’n edrych fel pe bai’r llywodraeth yn ceisio gwanhau’r ddyletswydd hon.
“O ganlyniad i hyn, mae’n aneglur pa ddyletswydd sydd ar gynghorau wrth iddynt ystyried cynlluniau adeiladu mawr hyd at gannoedd o dai.
“Ni all dogfen bolisi newid y gyfraith felly mae’n rhaid i’r Gweinidog ddiwygio’r nodyn cyngor er mwyn cysoni’r ddau beth. Byddaf yn herio’r Gweinidog ar hyn yn y Senedd, ac yn ceisio sicrhau y newid bwysig yma.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd