Toriadau ym Mhrifysgol Bangor - Ymateb gan yr ASau lleol

Mae Aelod Seneddol Arfon Hywel Williams ac Aelod o Senedd Cymru dros Arfon Sian Gwenllian wedi ymateb i'r newyddion for oddeutu dau gant o swyddi mewn perygl ym Mhrifysgol Bangor.  
Dywedodd Sian Gwenllian AS,

‘Mae hon yn ergyd enfawr i’r ardal, ac mae cyfnod pryderus o’n blaenau, i staff a’u teuluoedd. Rwy’n gobeithio y gall y Brifysgol fanteisio ar y pecynnau cymorth Covid-19 sydd ar gael ac y gellir amddiffyn cymaint o swyddi â phosibl.' 

 
‘Mae Prifysgol Bangor yn gyflogwr sylweddol a phwysig i'r ardal, ac yn hanfodol wrth ddatblygu’r economi leol trwy ymchwil a darparu sgiliau hanfodol ar gyfer gweithlu'r dyfodol. Rhaid cymryd pob cam posib i amddiffyn y swyddi yma.’ 
Dywedodd Hywel Williams AS,
'Mae hon yn ergyd drom ac yn peri ansicrwydd i'r rhai sy'n wynebu colli eu swyddi. Mawr obeithiaf ei bod yn bosib lliniaru yr effaith ar staff trwy ddiswyddiadau gwirfoddol, er ofnaf nad oes fawr o le i wneud hyn o ystyried toriadau blaenorol.'   
 
‘Mae’r rhain yn amseroedd anhygoel o heriol i bawb, ac mae prifysgolion wedi bod yn agored i effaith ariannol pandemig Covid-19 ar draws nifer o feysydd, gan gynnwys colli incwm ffioedd dysgu rhyngwladol.’ 
‘Rwy’n ofni nad yw’r anhrefn o amgylch canlyniadau Lefel A yn Lloegr wedi bod o help, a gall hyn fod wedi arwain at rai myfyrwyr yn dargyfeirio i brifysgolion eraill.’ 
‘Estynaf fy nghefnogaeth i bawb sydd cael eu heffeithio gan y newyddion hyn.’ 
 

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd