Mae pennaeth Trago Mills “allan o gysylltiad ac yn hollol anghywir”

sian_g1.jpg

Mewn llythyr deifiol, mae Siân Gwenllian o Blaid Cymru wedi amlygu’r ymosodiadau di-sail a rhagfarnllyd ar yr iaith Gymraeg gan Bennaeth y siopau disgownt Trago Mills.

Yr oedd y cyn-gyfrannwr i UKIP, Bruce Robertson, wedi ysgrifennu at Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg yn dilorni’r iaith Gymraeg, gan honni ei bod yn ‘aflerwch gweledol’ yn ei siopau.
Yn ei hymateb, tynnodd Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg, Llywodraeth Leol a Chydraddoldeb, sylw at arolwg diweddar a ganfu fod 86% o bobl Cymru yn cefnogi’r iaith Gymraeg.
Sylwodd Ms Gwenllian hefyd nad oedd sail i “amheuon” Mr Robertson am y Gymraeg, gan gyfeirio at y swm enfawr o ymchwil sy’n cefnogi manteision dwyieithrwydd.
Wrth sôn am ei llythyr, meddai Ms Gwenllian:
“Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb sy’n penderfynu mai Cymru yw eu cartref. Gobeithio y bydd Mr Robertson yn newid ei farn wedi iddo ddeall y ffeithiau’n well.
“Mae ei sylwadau allan o gysylltiad ac yn hollol anghywir. Mae mwyafrif llethol pobl Cymru yn falch o’n hiaith, ac y mae ei manteision addysgol ac economaidd wedi hen sefydlu.
“Rwy’n siwr na fyddai Mr Robertson eisiau dangos y fath ddirmyg at ‘ewyllys y bobl’ trwy ddilorni’r Gymraeg yn y ffordd y gwnaeth ef.
“Mae natur anwybodus ei lythyr yn debyg i sylwadau eraill a wneud gan weddillion y giwed wrth-Gymraeg. Maent yn dewis anwybyddu ffeithiau a rheswm, gan fod yn well ganddynt bedlera eu rhagfarnau di-sail.
“Mae mwyafrif llethol pobl Cymru yn anghytuno’n sylfaenol â dadleuon siêp a sigledig Mr Robertson.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd