Galwadau o'r newydd i drydaneiddio rheilffordd Gogledd Cymru

Hywel_Bangor_.JPG

Mae galwadau o'r newydd wedi eu gwneud gan wleidyddion lleol ac arweinwyr academaidd i Lywodraeth San Steffan osod dyddiad pendant i drydaneiddio Rheilffordd Gogledd Cymru rhwng Caergybi a Crewe.

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams yn dadlau ei bod yn hen bryd i'r llywodraeth symud ymlaen a thrydaneiddio’r llwybr 135km, gan ddatgan fod teithwyr yng ngogledd Cymru yn dwyn baich ‘diffyg penderfyniad ac addewidion ffug’ y llywodraeth.

Mae galwadau Mr Williams wedi cael eu hategu gan Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes, sydd wedi galw am welliant 'cyflym a sylweddol' i wasanaethau ar hyd arfordir gogledd Cymru.

Dywedodd Hywel Williams AS,

“Rwyf wedi pwyso’r llywodraeth droeon i drydaneiddio rheilffordd y gogledd. Hyd yma, mae llywodraethau olynol wedi osgoi'r mater, ar draul pobl gogledd Cymru sy'n dwyn baich gwamalu gwleidyddol.”

“Mewn termau ymarferol, mae trydaneiddio’r lein rhwng Crewe a Chaergybi yn gwneud synwyr. Ar hyn o bryd, mae trenau sy’n teithio rhwng Llundain a Crewe yn teithio ddwywaith mor gyflym a threnau rhwng Crewe a Chaergybi.”

“Nid yw’n dderbyniol bod teithwyr sy’n croesi’r ffîn i Gymru yn gorfod bodloni ar wasanaeth llai aml sydd gyffelyb â gwasanaeth trydydd dosbarth.”

“Mae nifer o’m etholwyr yn defnyddio’r tren o Fangor yn aml iawn, naill ai ar gyfer gwaith neu hamddena, gyda nifer yn teithio i Gaer ac ymhellach i ffwrdd i weithio.”

“A yw’n dderbyniol fod pobl sy’n cychwyn taith o Fangor yn gorfod eistedd ar y tren am dros ddwy awr dim ond er mwyn cyrraedd Crewe, pellter o 84 milltir, tra bod y rhai sy’n teithio o Lundain i Crewe yn cwblhau y daith o fewn dwy awr er eu bod yn teithio ddwywaith y pellter.”

“Gyda achos busnes cadarn dros drydaneiddio’r rheilffordd yn y gogledd, mae pobl Arfon eisiau gwybod pam bod yna oedi a pham fod HS2 yn cael y flaenoriaeth, cynllun sy’n debygol o gymryd blynyddoedd i’w gwblhau.”

“Dylai’r Llywodraeth ganolbwyntio ar uwchraddio rheilffordd gogledd Cymru a symud ymlaen â’r trydaneiddio cyn gynted a phosib fel bod fy etholwyr ac eraill ar draws y gogledd yn elwa o wasanaeth traws-ffiniol cyflym a dibynadwy, gan roi gogledd Cymru yn gydradd â gweddill y DU.”

Ychwanegodd yr Athro John G. Hughes,

“Mae'r gwasanaethau a'r isadeiledd presennol yn wael ac angen sylw brys. Does dim amheuaeth fod economi gogledd orllewin Cymru angen mynediad cyflymach at ddinasoedd fel Llundain, Manceinion, Lerpwl a Birmingham.”

“Yn 2015, dechreuodd a terfynodd tua miliwn o deithwyr eu siwrneau ym Mangor a Chaergybi, a byddai hyn yn cynyddu yn sylweddol pe bai gwasanaethau yn gwella.”

“Nid yn unig byddai’r economi leol yn elwa o welliannau i’r rheilffordd wrth i ni weld mwy o bobl yn ymweld â’r ardal, ond mae busnesau a'r Brifysgol ei hun yn gweld manteision enfawr pa bai amseroedd teithio yn lleihau a theithiau yn cael eu gwneud yn llawer haws.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd