Y Gymraeg "dan anfantais" ar-lein o gymharu a ieithoedd eraill

sian_gwenllian_senedd.jpg

Mae Plaid Cymru wedi galw am strategaeth i fynd i'r afael â’r diffyg buddsoddiad i’r Gymraeg ar gyfryngau digidol ar ôl iddo ddod i’r amlwg fod Llywodraeth Llafur Cymru wedi cyfrannu £185,000 yn unig dros gyfnod o bum mlynedd tuag at ddatblygu technoleg ddigidol cyfrwng Cymraeg.

Wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Sian Gwenllian AC, cadarnhaodd y gweinidog dros y Gymraeg Eluned Morgan AC fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £185,000 yn unig drwy amryw o grantiau a ddyfarnwyd i Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor i fuddsoddi a datblygu technoleg ddigidol cyfrwng Cymraeg.

Meddai Sian Gwenllian AC a llefarydd y cabinet cysgodol ar gyfer yr iaith Gymraeg,

"Mae Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor yn gwneud gwaith anhygoel gyda’r grantiau a roddir iddynt. Ond mae’r gwaith o ddatblygu technoleg llais i destun Cymraeg yn dal i fod yn ei ddyddiau cynnar.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi grantiau bychain yma ac acw ond mae natur pytiog yr ymrwymiad yn golygu bod yr effaith yn gyfyngedig.

Bydd diffyg buddsoddi strategol yn golygu fod yr iaith Gymraeg mewn perygl o gael ei gadael ar ol yn yr oes ddigidol.

Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru ddangos eu bod yn lywodraeth fodern, genedlaethol trwy ddangos arweinyddiaeth ac arloesedd drwy fuddsoddi’n strategol mewn technoleg ddigidol cyfrwng Cymraeg.

Byddai Llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru yn dyblu’r gyllideb ar y Gymraeg – gan gynnwys ym maes technoleg llais i destun.”

Bydd Siân Gwenllian AC yn cadeirio trafodaeth banel gyda Jill Evans ASE ar Ieithoedd Ewropeaidd yn yr Oes Ddigidol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Cafodd adroddiad Jill Evans ASE ar ‘Gydraddoldeb Iaith yn yr Oes Ddigidol', gefnogaeth unfrydol gan Bwyllgor Diwylliant ac Addysg Senedd Ewrop ym mis Mehefin. Tynnodd sylw at y ffaith bod cymaint o weithgarwch pob dydd yn digwydd ar-lein bellach ac mae rhaniad digidol ieithyddol wedi dod i'r amlwg sy'n golygu bod siaradwyr ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys iaith arwyddion, yn wynebu heriau sylweddol o'u cymharu â defnyddwyr ieithoedd mwy.

Meddai ASE Plaid Cymru, Jill Evans,

"Mae fy adroddiad yn galw am fuddsoddiad sylweddol mewn ymchwilio a datblygu technoleg iaith er mwyn helpu creu wir amlieithrwydd ar lein.

“Nid oes yr un cwmni yn Ewrop o faint cymharol a Google a’i debyg. Rydyn ni’n syrthio am yn ol ym myd technoleg iaith ac yn methu cymryd mantais o’r cyfle yma.

"Mae dros wyth deg o ieithoedd yn cael eu siarad ar draws Ewrop. Mae tua pedwar deg miliwn o bobl yn siarad ieithoedd sydd ddim ymhlith y 24 o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Sut bynnag, arlein mae rhai ieithoedd yn llawer mwy amlwg. Bydd y defnydd creadigol o dechnolegau digidol newydd yn ein helpu i bontio'r rhaniad ieithyddol digidol. Gallai hyn arwain at Siri (iPhone) yn siarad Cymraeg, er enghraifft, a’i gwneud hi'n haws i’r rhai sy’n defnyddio iaith arwyddion gael mynediad llawn at dechnoleg ddigidol newydd.

“Mae ganddo ddefnydd ymarferol bwysig yn y gwasanaeth iechyd ac yn darparu cyfleoedd i gwmniau preifat.

“Yng Nghymru, fel mewn llawer o wledydd eraill, mae pobl wedi gorfod ymgyrchu dros gydraddoldeb iaith, yn enwedig dros ieithoedd lleiafrifol, er mwyn gallu defnyddio eu hiaith eu hunain ym mhob agwedd o’u bywydau.

"Mae'r dechnoleg eisoes yn bodoli ac mae ‘na waith arloesol yn cael ei wneud yng Nghymru. Mae angen yr ewyllys wleidyddol i gyflawni newid go iawn."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd