Y penderfyniad anghywir i anfon plant i'r ysgol cyn bod system profi ac olrhain ar waith.

Dylid canolbwyntio ar wneud dysgu o bell yn iawn, meddai Siân Gwenllian, Plaid Cymru. 

Mae Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru Siân Gwenllian wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailagor ysgolion i'w holl ddisgyblion o 29 Mehefin ymlaen, gan alw'r symudiad yn "rhy gynnar".

Nododd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid fod y system profi ac olrhain yn ei dyddiau cynnar a bod prinder tystiolaeth ynghylch sut caiff y feirws ei drosglwyddo, yn enwedig rhwng plant ac oedolion, a dywedodd fod y symudiad yn "fyrbwyll" ac na fyddai llawer o rieni a disgyblion yn hyderus i ddychwelyd ddiwedd mis Mehefin.

Dywedodd Ms Gwenllian y dylai ysgolion aros ar gau drwy fis Mehefin a Gorffennaf, ac agor yng nghanol mis Awst "pe bai hynny'n ddiogel".

Galwodd Ms Gwenllian unwaith eto am fwy o ffocws ar wneud gweithio o bell yn iawn er mwyn i ysgolion allu parhau i ddarparu addysg beth bynnag sy'n digwydd yn y misoedd nesaf.

 

Meddai Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS: 

"Mae'r Gweinidog Addysg wedi gwneud y penderfyniad anghywir. Mae anfon plant yn ôl i'r ysgol ddiwedd mis Mehefin yn rhy gynnar. 

"Dim ond newydd ddechrau mae rhaglen profi ac olrhain Llywodraeth Cymru, ac mae gennym brinder tystiolaeth ynghylch sut caiff y feirws ei drosglwyddo yn ein cymunedau.  Ni fydd llawer o rieni a phlant yn hyderus ei bod yn ddiogel i ddychwelyd i ysgolion. Mae hwn yn benderfyniad byrbwyll. 

"Mae Plaid Cymru o'r farn y dylai ysgolion aros ar gau drwy fis Mehefin a Gorffennaf, ac agor fesul cam yng nghanol mis Awst ond dim ond os bydd hynny'n ddiogel.

"Mae gwella a chynyddu dysgu o bell yn dal i fod yn hollbwysig i'r cynlluniau i ailagor ysgolion fesul cam a sicrhau bod ysgolion yn cadw mewn cysylltiad â phob disgybl, fel na chaiff unrhyw blentyn ei adael ar ôl. Os gallwn ni wneud dysgu o bell yn iawn, bydd hynny'n caniatáu i ni barhau i addysgu ein plant yn niogelwch eu cartrefi, hyd yn oed os daw cyfyngiadau symud unwaith eto yn y gaeaf." 

"Hefyd, gallai gwyliau haf hirach gael effaith andwyol ar ddisgyblion a dylid ystyried cyflwyno gweithgareddau ar-lein i gadw plant yn brysur.

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd