Ymchwil Covid-19: MS yn croesawu grant £500,000 ar gyfer Prifysgol Bangor.

Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Arfon wedi croesawu cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd arian yn cael ei glustnodi ar gyfer consortiwm dan arweiniad Prifysgol Bangor a fydd yn monitro lefelau coronafirws mewn gweithfeydd trin gwastraff dŵr.
 
Mae monitro cyson o’r gweithfeydd yn gallu cynnig syniad o gyfradd yr haint yn y gymuned, yn ogystal â rhoi rhybudd cynnar bod coronafirws yn bresennol.
 
Byddant yn datblygu rhaglen fonitro a fydd yn mesur presenoldeb y firws SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff. Mae presenoldeb SARS-CoV-2 mewn gwastraff dynol yn gyffredin ym mron pob achos o Coronafirws.   
 
Daw’r cyhoeddiad wedi i Siân Gwenllian alw ar y Llywodraeth i roi cefnogaeth i’r rhaglen ymchwil mewn cyfarfod o’r Senedd rai wythnosau’n ôl.
 
Croesawodd Siân Gwenllian AS y cyhoeddiad, gan ddweud ‘rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar fy ngalwad i gynnig cefnogaeth i’r prosiect blaengar hwn. Rwy’n falch hefyd o weld Prifysgol Bangor ar flaen y gad yn y maes ymchwil gwyddonol unwaith eto. Rydym yn falch iawn o gael sefydliad lleol yn ganolog yn y frwydr yn erbyn y feirws.
 
Mewn datganiad gan Brifysgol Bangor dywedodd Iwan Davies, Is-Ganghellor y brifysgol ei fod yn ‘falch iawn y bydd gwaith monitro amgylcheddol arloesol, sy'n cyfuno gwahanol feysydd arbenigedd yn ein Coleg Gwyddor yr Amgylchedd a Pheirianneg, yn cyfrannu at waith hanfodol y genedl i amddiffyn cymunedau yn erbyn Covid-19 ac achosion pellach o coronafirws a firysau heintus eraill.’
 
Cadarnhaodd Vaughan Gething, y gweinidog iechyd y bydd y rhaglen beilot yn derbyn £500,000 ac yn para am 6 mis i ddechrau, gyda’r gobaith o ehangu’r samplo i 20 weithfeydd sy’n cynrychioli tua 75% o boblogaeth Cymru.
 

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd