“Mae’n rhaid i ni fod yn rhagweithiol er mwyn gwella amrywiaeth ar gynghorau Cymru”

Mae grŵp ar Gyngor Gwynedd yn estyn allan i “wella amrywiaeth”

 

Mae cynghorydd ar gyngor Gwynedd wedi dweud bod “angen i gynghorwyr fod yn rhagweithiol er mwyn gwella amrywiaeth ar gynghorau Cymru.”

 

Mae Catrin Elen Wager yn cynrychioli ward Menai ym Mangor ar Gyngor Gwynedd, ac mae hefyd yn gwasanaethu fel Aelod Cabinet.

 

Mae wedi galw ar ymgyrchwyr eraill i fynd ati gydag agwedd ragweithiol i annog pobl o gefndiroedd amrywiol i gamu i’r adwy yn Etholiadau’r Cyngor.

 

Yn ôl y cynghorydd;

 

“Mae cynghorau ar eu gorau pan mae ganddyn nhw gyfoeth o leisiau amrywiol o wahanol gefndiroedd yn eistedd arnyn nhw.

 

“Os yw Cynghorau, a Llywodraethau o ran hynny, yn honni eu bod nhw wir yn cynrychioli’r bobl maen nhw i fod i’w cynrychioli, mae angen iddyn nhw adlewyrchu cymdeithas yn ei chyfanrwydd.

 

“Ar hyn o bryd rydan ni’n wynebu heriau digynsail. Newid hinsawdd. Sexism a hiliaeth sefydliadol. Tlodi a newyn plant. Brexit. A chyfleoedd yn cael eu tynnu oddi ar ein pobl ifanc. Er mwyn mynd i’r afael go iawn â’r materion hyn, mae angen pobl sy’n deall y materion, ac sy’n byw’r heriau hyn bob dydd.

 

“Dyna pam fy mod i’n cyd-drefnu a chadeirio cyfarfod yn fy ardal ar gyfer y rhai sy’n ’styried sefyll yn Etholiadau’r Cyngor y flwyddyn nesaf.

 

“Mae’r sesiwn yn cynnwys cyngor gan unigolion o ystod o gefndiroedd sydd wedi bod yn gynghorwyr.

 

“Rydyn ni hefyd yn gobeithio chwalu’r myths, a thrafod y rhwystrau hynny sy'n atal rhai rhag sefyll.

 

“Er enghraifft, fel rhiant, byddaf yn trafod y gefnogaeth sydd ar gael ar ffurf gofal plant.

 

“Mae ein grŵp presennol o gynghorwyr yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys seicolegydd clinigol, gwirfoddolwr gyda ffoaduriaid, actores adnabyddus, gyrrwr ambiwlans, amgylcheddwr a nyrs seiciatryddol.

 

“Rydyn ni eisiau i bobl ddechrau meddwl y tu allan i’r mowld o’r math o berson sy'n sefyll i fod yn gynghorydd.”

 

Mae croeso i bawb sy'n byw yn ardal Arfon ddod i'r sesiwn, cyn belled â'u bod yn cofrestru trwy ddilyn y ddolen hon.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-09-29 19:49:59 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd