AC Arfon yn cefnogi menter newydd yn Nhref Caernarfon

selwyn-sian.jpg

Mae Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian yn cefnogi  ymgyrch #80mewn8 menter gymunedol Llety Arall yng Nghaernarfon wrth i’r rhai sydd tu ôl i’r cynllun apelio ar y cyhoedd am werth £80,000 o fuddsoddiadau o fewn yr 8 wythnos nesaf, er mwyn gwireddu eu breuddwyd.

Bwriad y cynllun yw cynnig llety unigryw i ymwelwyr yng nghanol tref Caernarfon, gyda phwyslais ar gynnig gwir flas a dealltwriaeth o iaith a diwylliant y dref.

“Mae’n gynllun cyffrous iawn a fydd yn ychwanegu ymhellach at gymeriad unigryw Caernarfon,” meddai Siân Gwenllian, “ac er bod criw Llety Arall wedi sicrhau nawdd ac wedi derbyn nifer o fuddsoddiadau gan bobol leol a thu hwnt, dydyn nhw ddim wedi cyrraedd eu targed ariannol eto. Mi fyddai rhagor o fuddsoddiadau yn dod a’r targed yn nes ac yn golygu bod modd bwrw mlaen i wireddu’r cynllun ardderchog yma.”

Yn ogystal ag opsiynau llety amrywiol a fydd yn addas i deuluoedd, grwpiau ac unigolion o bob oed, mi fydd gofod yng nghefn yr adeilad ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd cymunedol a nosweithiau o adloniant. Wrth wasanaethu ymwelwyr a phobl leol ar yr un pryd ac o fewn yr un adeilad, bydd modd cynnig profiad go iawn i ymwelwyr o beth ydi bywyd Caernarfon.

“Roeddwn i’n falch iawn o fod y canfed person i fuddsoddi yng nghynllun Llety Arall,” meddai Siân Gwenllian, “ac mi fyddwn i’n annog unrhyw un arall sydd â diddordeb yn nhwf a ffyniant y dref arbennig yma i wneud yr un peth os oes gennyn nhw ychydig bach o arian dros ben. Llongyfarchiadau mawr i’r criw tu ôl i’r fenter, ac mi fyddai’n edrych ymlaen yn arw at wylio Llety Arall yn mynd o nerth i nerth.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd