Adroddiad newydd yn cyflwyno'r achos am Ysgol Feddygol ym Mangor

sianahywel.jpg

Mae ysgol feddygol yn hanfodol os yw Cymru am daclo'r prinder sylweddol o feddygon sy'n wynebu'r wlad, yn ôl adroddiad newydd sydd wedi'i gyhoeddi.

Mae 'Delio â'r Argyfwng', adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Siân Gwenllian AC, yn cyflwyno'r achos dros sefydlu trydedd ysgol feddygol wedi'i lleoli ym Mangor. Mae'n nodi fod aryfwng o ran hyfforddi a recriwtio staff meddygol mewn sawl rhan o Gymru, yn arbennig yn y gogledd ac ardaloedd gwledig, a bod ysgol feddygol wledig yn rhan hollbwysig o'r ateb Cymru gyfan i fynd i'r afael â'r broblem.

Mae'r nifer o fyfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais i astudio meddygaeth wedi gostwng 15% mewn pum mlynedd – gostyngiad mwy nag yng ngweddill y DU – ac mae gan ogledd a gorllewin Cymru lai a feddygon teulu i bob 10,000 o'r boblogaeth nag mewn rhannau eraill o'r wlad. Yn 2015-16, roedd 50% o swyddi ymgynghorwyr arbenigol yng ngogledd Cymru heb eu llenwi ac ym mis Chwefror eleni datgelwyd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwario £21m ar staff meddygol o asiantaethau mewn cyfnod o 11 mis.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at enghreifftiau yn UDA, Awstralia a Norwy sy'n dangos bod hyfforddiant meddygol yn hanfodol o ran recriwtio a chadw meddygon, yn arbennig meddygon teulu, mewn ardaloedd gwledig.

Meddai Siân Gwenllian: "Mae angen dybryd am drydedd ysgol feddygol yng Nghymru i gwrdd ag anghenion cynyddol cymunedau ledled y wlad, yn arbennig yma yng ngogledd Cymru ac mewn ardaloedd gwledig eraill.

"Gyda nifer o feddygon yn agosau at oed ymddeol, a phrinder pobl ifanc sy'n cael eu hyfforddi yma, mae gwasanaethau gofal iechyd eisoes yn wynebu her fawr. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi tystiolaeth bellach sy'n dangos bod ysgol feddygol newydd yn rhan hollbwysig o'r ateb i sicrhau bod gennym ddigon o feddygon yn y dyfodol.

"Mae llywodraethau ledled y byd yn ymateb i sefyllfaoedd cyffelyb trwy gynyddu'r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael. Mewn ardaloedd gwledig, sy'n wynebu problemau tebyg i Gymru, mae sefydliadau hyfforddi newydd yn cael eu sefydlu. Mae'r ysgolion meddygol hyn yn cael eu lleoli yn yr ardaloedd gwledig eu hunain – nid yw addasu strwythurau sy'n bodoli'n barod yn gweithio."

Ychwanegodd: "Mae yna gyfle i greu ysgol feddygol yng ngogledd gorllewin Cymru, gan adeiladu ar adnoddau Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Byddai ysgol feddygol ym Mangor yn helpu i ddenu myfyrwyr o Gymru wledig, gan eu gwreiddio yn yr ardaloedd hynny'n fuan yn eu gyrfa. Byddai hefyd yn helpu i gadw meddygon yn y cymunedau hynny. Yn ogystal, gallai'r ysgol arbenigo mewn meddygaeth wledig a hyfforddi meddygon i weithio mewn cymunedau dwyieithog."

Mae GIG Cymru yn darparu 136 o lefydd hyfforddi meddygon teulu bob blwyddyn. Yn y ddogfen 'Transform General Practice' (2016) mae Coleg Brenhinol Ymarferwyr Cyffredinol Cymru yn argymell cynyddu'r nifer i 200 gyda'r nod o sicrhau 500 yn fwy o feddygon teulu llawn amser yng Nghymru erbyn 2021-2022. Mae GIG Lloegr eisoes yn ymateb i brinder o ran recriwtio trwy greu 1500 yn rhagor o leoliadau hyfforddi meddygon ac mae ysgolion meddygol preifat yn cael eu sefydlu yn Lloegr.

Fel y nodir yn yr adroddiad, mae'r Athro Dean Williams, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor a Llawfeddyg Ymgynghorol Fasgwlaidd a Chyffredinol yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn amcangyfrif mai cymharol ychydig o staff academaidd ychwanegol fyddai eu hangen gan fod gwyddonwyr ymchwil eisoes yn gweithio yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol a bod nifer fawr o athrawon clinigol rhagorol eisoes ar gael yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, byddai unrhyw benodiadau yn rhai academaidd a chlinigol ar y cyd, gan helpu i ddenu ymgynghorwyr o safon uchel i ysbytai'r gogledd.

Mae Dr Dylan Parry yn feddyg teulu yn Hen Golwyn. Mae'n ymgyrchydd ar gyfer recriwtio meddygon teulu, yn hyfforddwr meddygon teulu ac yn Hyrwyddwr y GIG. Fe'i dyfynnir yn yr adroddiad yn sôn am ei brofiad o recriwtio staff: "Dwi wedi ceisio denu meddygon teulu i ogledd Cymru drwy ddangor pa mor ddeniadol yw'r ardal i fyw a gweithio ynddi, ac ansawdd uchel o fywyd sydd gynnon ni yma.

"Os bydd myfyrwyr yn cael cyfle i astudio yma yn nyddiau cynnar eu hyfforddiant, gallai'r neges honno gael ei chyfleu yn fwy effeithiol. Mae tystiolaeth yn dangos bod trwytho myfyrwyr mewn cymuned wledig am gyfnod yn cynyddu'r tebygolrwydd y byddan nhw'n dod yn ôl yno i weithio. Fel y mae pethau, mae'r rownd gyntaf o recriwtio yng Nghymru yn tueddu i lenwi lleoedd hyfforddi ar hyd coridor yr M4 yn gyntaf."

Yr wythnos ddiwethaf, ymatebodd y Prif Weinidog Carwyn Jones i gwestiwn gan Siân Gwenllian yn y Senedd ynglyn â'r achos busnes ar gyfer ysgol feddygol yng ngogledd Cymru sy'n cael ei baratoi gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Dywedodd y byddai datganiad yn cael ei wneud yn fuan ond y byddai'n rhaid i unrhyw benderfyniad am y mater sicrhau bod cynlluniau yn "gynaliadwy".


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.