Annog darpar feddygon i astudio ym Mangor

Mae darpar fyfyrwyr meddygaeth wedi cael eu hannog i “fod yn rhan o hanes” a bod ymhlith y garfan gyntaf i wneud cais i astudio ym Mangor.

 

Mae Siân Gwenllian AS, sydd wedi gwneud yr ymgyrch am Ysgol Feddygol ym Mangor yn ganolog i’w chyfnod fel Aelod o’r Senedd dros Arfon, wedi annog myfyrwyr i wneud cais, wrth i’r dyddiadau cau agosáu.

 

Ar hyn o bryd mae Ysgol Feddygaeth Bangor yn gartref i 77 o fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd, cyfuniad o raddedigion o Gymru a myfyrwyr meddygol sy'n trosglwyddo i Fangor ar ôl cwblhau eu hastudiaethau Blwyddyn 1 yng Nghaerdydd. Ym mis Medi 2024 bydd yr ysgol yn croesawu 60 o fyfyrwyr yn uniongyrchol o gyrsiau Lefel A.

 

A'r wythnos hon, mae Siân Gwenllian wedi annog darpar fyfyrwyr i wneud cais cyn y dyddiad cau ym mis Hydref:

 

“Yn ddiweddar, cefais y fraint o ymweld â’r ysgol i ddysgu am gynlluniau arfaethedig ar gyfer Ysgol Feddygol newydd sbon ym Mangor.

 

“Mae disgwyl y bydd cyfanswm o 670 o fyfyrwyr yn astudio yn yr ysgol erbyn 2033. Dwi’n siŵr y bydd yr ysgol yn drobwynt yn hanes y ddinas ac i wasanaethau iechyd yn lleol.

 

“Dwi rŵan yn gobeithio y bydd ysgolion a cholegau chweched dosbarth lleol yn achub ar y cyfle i annog eu myfyrwyr i ’styried gyrfa mewn meddygaeth, ac i ’styried gwneud hynny ym Mangor.

 

“Mae’r cyfleoedd sy’n codi o gael Ysgol Feddygol ym Mangor yn niferus. Ar lefel gymunedol, bydd myfyrwyr yn cael eu lleoli mewn ysbytai a meddygfeydd lleol, sy'n arwydd o fuddsoddiad pwysig yn ein cymunedau.

 

“Yn ogystal â hynny, bydd Ysgol Feddygol yng Ngwynedd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ennill gwerthfawrogiad o’r heriau unigryw sy’n wynebu gweithwyr iechyd yng nghefn gwlad, a gall yr ysgol hefyd fod yn ganolbwynt ar gyfer datblygiad gofal iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

“Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu, mae’n braf iawn gweld ffrwyth ein llafur, gyda chamau sylweddol yn cael eu cymryd i sicrhau bod meddygon yn aros yng Nghymru.

 

“Mi hoffwn annog darpar feddygon i fod yn rhan o hanes a gwneud cais am le i astudio yn ein Hysgol Feddygol newydd sbon.”

 

Bydd darpar fyfyrwyr meddygaeth yn gwybod bod yn rhaid gwneud cais i astudio’r cwrs bron i flwyddyn ymlaen llaw. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i gyrsiau meddygaeth sy’n dechrau ym mis Medi 2024 yw 15 Hydref 2023.

 

Ychwanegod Siân:

 

“Dwi’n dymuno pob lwc i bob ymgeisydd, ac edrychaf ymlaen at groesawu myfyrwyr o’r fro leol yn ogystal ag o rannau eraill o Gymru i astudio meddygaeth ym Mangor.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2023-09-15 14:35:20 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd