ASau yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno e-bresgreibio

Gwnaed yr alwad gan ASau Môn ac Arfon ar ymweliad â chanolfan iechyd yng Nghaernarfon 

Proses o arwyddo, anfon, a phrosesu presgripsiynau yn electronig yw e-bresgreibio. 

  

Mae nifer yn honni bod y broses yn fwy effeithiol, yn ogystal â honni ei fod yn lleihau llwyth gwaith gweithwyr iechyd. 

  

Yn ddiweddar, mae Siân Gwenllian AS a Rhun ap Iorwerth AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu’r dechnoleg ar ymweliad â Hafan Iechyd, practis iechyd yn nhref Caernarfon. 

  

Honnodd yr ASau fod yr alwad yn arbennig o berthnasol yn dilyn pwysau enfawr a roddwyd ar y gwasanaeth iechyd gan COVID-19. 

  

Mae presgreibio meddyginiaeth, gan fwyaf, yn parhau i ddigwydd ar bapur yng Nghymru, ac ymunodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru â Siân Gwenllian AS, yr Aelod lleol o’r Senedd yr wythnos hon wrth alw ar y Llywodraeth i fabwysiadu e-bresgreipio. 

  

Mewn datganiad gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod adolygiad annibynnol ar e-bresgreibio wedi’i gynnal yng Nghymru, a’i fod wedi dod i ben ym mis Ebrill. 

  

Yn ôl y datganiad; 

  

“Ers hynny, mae swyddogion wedi gweithio gyda’u chydweithwyr yn y GIG i ddatblygu cynllun i weithredu e-Ragnodi (e-bresgreipio) drwy gydol cylch oes presgripsiwn. 

  

“Drwy raglen e-Ragnodi, gallwn wella a digideiddio sut mae cleifion, clinigwyr, a fferyllwyr yn cael mynediad at y ddarpariaeth o feddyginiaethau ar draws y system iechyd. 

  

“Bydd hyn yn cynnwys: cleifion yn cael mynediad at feddyginiaethau, clinigwyr yn rhagnodi meddyginiaethau, fferyllwyr yn rhoi sicrwydd ac yn gweinyddu presgripsiynau, ac awdurdodau monitro yn archwilio ac yn prisio meddyginiaethau. 

  

“Nododd yr adolygiad yr argymhelliad allweddol a fydd yn cyflawni’r gwaith hwn ar draws pedwar maes e-Ragnodi ochr yn ochr â’i gilydd. Disgwylir i hyn gael ei wireddu o fewn tair i bum mlynedd.” 

  

Ymatebodd Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, gan gyhuddo Llywodraeth Cymru o arddangos diffyg brys; 

  

“Dyma faes arall lle mae Llywodraeth Cymru ar ei hôl hi. 

  

“Mae e-bresgreibio yn ffordd synhwyrol iawn o leihau llwyth gwaith sylweddol gweithwyr iechyd. 

  

“Yn amlwg rwy’n croesawu’r argymhellion, ond mae amserlen o 3 i 5 mlynedd yn peri pryder mawr. 

  

“Mewn cyfnod sydd wedi bod yn dreth ar feddygon, mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu eu baich. 

  

“Hoffwn ddiolch i Dr Sioned Enlli a’r tîm yn Hafan Iechyd am yr ymweliad, ac am rannu heriau’r flwyddyn ddiwethaf. 

  

“Mae pobl Caernarfon yn ffodus iawn i gael gwasanaethau iechyd sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, ac rwy’n sicr y byddai e-bresgreibio o fudd mawr i’r gwasanaethau hynny.” 

  

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, AS Ynys Môn a llefarydd iechyd Plaid Cymru; 

  

“Roedd yn braf cyfarfod â Dr Sioned Enlli a’r tîm yng Nghaernarfon efo Siân heddiw. Mae’r ganolfan iechyd yno yn ased arbennig i’r dref a’r cyffiniau, ac mae’n esiampl o’r math o ddarpariaeth aml-ddisgybliaethol sydd ei angen o fewn cyrraedd i bob cymuned. Yn fy etholaeth i, mae angen symued ar frys tuag at sefydlu canolfan newydd o’r fath yng Nghergybi, ac mi fyddaf yn parhau i wthio am hynny.  

  

“Diolch i Dr Sioned Enlli a’r meddygon a staff eraill am eu gwaith diflino drwy gydol y pandemig. Mae’n braf gallu siarad â’r rheiny sydd ar y rheng flaen, a dod i wybod yn union rwystrau a’r heriau sy’n wynebu meddygon a staff iechyd ein canolfannau iechyd.” 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-09-29 16:02:18 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd