ASau yn lansio apêl Nadolig i elusen canser plant

Mae’r elusen yn codi arian i gefnogi plant gyda chancr yng Ngwynedd a Môn

Mae ASau lleol wedi lansio apêl Nadolig i godi arian ar gyfer elusen Gafael Llaw, elusen sy’n cefnogi plant Gwynedd a Môn sy’n dioddef o gancr. 

 

Mae gwaith yr elusen yn canolbwyntio ar roi cefnogaeth ariannol i Ward Dewi Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl a’r elusen Clic Sergant.

 

Sefydlwyd Gafael Llaw yn 2013 gan griw o wirfoddolwyr yn ardal Caernarfon er mwyn ymateb i bryder lleol bod y ddarpariaeth a’r gofal i blant a phobl ifanc yr ardal a oedd yn dioddef â chancr yn anigonol.

 

Mae’r elusen wedi cynnal nifer o weithgareddau ers sefydlu, gyda nifer ohonynt yn cael sylw cenedlaethol, yn cynnwys Tour de Cymru, taith feicio 650 milltir o gwmpas ysbytai plant Cymru. Llwyddodd yr elusen i godi dros £110,000 yn ystod y ddwy flynedd gyntaf. 

 

Yn ogystal â gweithgareddau a digwyddiadau’r elusen ei hun, mae mudiadau, cymdeithasau ac unigolion lleol yn trefnu ymgyrchoedd codi arian eu hunain, ac eleni mae ASau lleol Arfon yn codi arian i Gafael Llaw yn eu hymgyrch Nadolig.

 

Wrth sôn am yr ymgyrch codi arian, dywedodd Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon:

 

“Mae’r gwaith mae Gafael Llaw yn ei wneud yn amhrisiadwy wrth leddfu gofidion plant, pobol ifanc a’u teuluoedd ar un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn eu bywydau

 

“Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae Gafael Llaw wedi codi arian i wella gwasanaethau, uwchraddio ciwbiclau ar wardiau, a gwella cyfleusterau fel ardaloedd chwarae ac ystafelloedd asesu.

 

“Mae wedi bod yn ddwy flynedd heriol i elusennau fel Gafael Llaw, a gwn fod y tîm yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad at eu gwaith pwysig.”

 

Ychwanegodd Hywel Williams AS;

 

“Mae gwaith Gafael Llaw yn agos iawn at galonnau pobol leol sydd wedi wynebu’r amgylchiadau erchyll o gael plentyn yn mynd drwy driniaeth cancr.

 

“Roedd ymgyrch codi arian Plaid Cymru Arfon y llynedd yn llwyddiant, ac mae’r Nadolig yn gyfle inni estyn llaw at y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.

 

“Rwy’n siŵr y bydd pobl Arfon yn hael yn eu cyfraniadau at achos mor deilwng.”

 

Gallwch gyfrannu at yr ymgyrch drwy ddilyn y ddolen hon.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-12-07 14:25:57 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd