Bwrw bol yn Llanllyfni

Cyfle i etholwyr gwrdd â’u cynrychiolwyr gwleidyddol i drafod materion a phryderon lleol yw cymhorthfa.

 

A’r mis nesaf bydd Siân Gwenllian AS yn cynnal cymhorthfa yn Nyffryn Nantlle.

 

Mae trigolion Llanllyfni a'r dalgylch yn cael eu hannog i ddod i drafod materion sy’n berthnasol i Senedd Cymru, gan gynnwys iechyd, tai, addysg, a’r amgylchedd.

 

Dylai’r sawl sy’n dymuno mynychu’r gymhorthfa gysylltu â’r swyddfa i drefnu apwyntiad. Gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at [email protected] neu drwy ffonio 01286 672076.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2023-09-22 10:08:50 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd