Bwrw bol yng Nghwm-y-glo

Cyfle i etholwyr gwrdd â’u cynrychiolwyr gwleidyddol i drafod materion a phryderon lleol yw cymhorthfa.

 

A’r mis nesaf bydd Siân Gwenllian AS yn cynnal cymhorthfa yng Nghwm-y-glo yng nghwmni'r Cynghorydd Sir Berwyn Parry Jones.

 

Mae trigolion Cwm-y-glo a'r dalgylch yn cael eu hannog i ddod i drafod materion sy’n berthnasol i Senedd Cymru, gan gynnwys iechyd, tai, addysg, a’r amgylchedd, neu faterion yn ymwneud â Chyngor Gwynedd, gan gynnwys casgliadau sbwriel a chaniatâd cynllunio.

 

Dylai’r sawl sy’n dymuno mynychu’r gymhorthfa gysylltu â’r swyddfa i drefnu apwyntiad. Gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at [email protected] neu drwy ffonio 01286 672076.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2023-10-09 12:13:05 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd