Canser yr ofari: ystadegau lleol yn destun pryder

Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi ymuno ag ymgyrch elusen i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofari. Yr wythnos hon ymunodd Siân Gwenllian â Target Ovarian Cancer wrth iddynt gyflwyno eu deiseb i Lywodraeth Cymru.

 

Ynghyd â Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru, casglodd yr elusen 755 o lofnodion yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau brys ac yn ariannu ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol ar symptomau canser yr ofari.

 

Yn ôl yr ymgyrch, byddai ymgyrch ymwybyddiaeth symptomau wedi’i ariannu gan y llywodraeth yn helpu menywod yng Nghymru i adnabod y symptomau ac i gadw llygad er mwyn cysylltu â'u meddyg teulu cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

Mae pedwar prif symptom o ganser yr ofari:

 

  • Y bol yn chwyddo’n gyson
  • Poen yn y pelfis neu'r abdomen
  • Diffyg awydd bwyd
  • Symptomau wrinol

 

Mae cyfraddau goroesi canser yr ofari ledled y DU ymhlith y gwaethaf yn Ewrop.

Mae Siân Gwenllian AS yn cynrychioli etholaeth Arfon yn y Senedd, ac mae’n honni fod ystadegau lleol ar ganser yr ofari yn destun pryder. Yn ôl Siân:

“Mae dros 300 o ferched yn cael diagnosis o ganser yr ofari bob blwyddyn yng Nghymru.

 

“Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y bwrdd iechyd sy’n cwmpasu fy etholaeth i, dim ond 33 y cant o fenywod sy’n cael diagnosis yn gynnar, yn ystod cam 1 a 2 y salwch.

 

“Mae 67 y cant o fenywod yn cael diagnosis yng nghamau 3 neu 4, lle mae’r sefyllfa’n debygol o fod yn waeth.

 

“Mae’r ystadegau lleol yn destun pryder, ac mae’r sefyllfa ar lefel genedlaethol hefyd yn peri pryder.

 

“Er enghraifft, mae 42 y cant o fenywod yng Nghymru yn credu bod prawf ceg y groth yn medru canfod canser yr ofari. Dydi hynny ddim yn wir.

 

“Dyma enghraifft arall o’r esgeulustod sy’n aml yn cael ei ddangos tuag at iechyd merched, mater rydw i wedi’i wneud yn flaenoriaeth yn ystod fy nghyfnod fel AS. Yn ystod y misoedd diwethaf yn unig dw i wedi brwydro am fwy o gefnogaeth i ferched sy’n dioddef o endometriosis, ac wedi ymgyrchu dros Uned Mamau a Babanod yng Ngogledd Cymru i ddarparu gofal a thriniaeth arbenigol pan fo mam yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.

 

“A dwi’n teimlo ei fod yn bwysig ymuno â’r alwad am ymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau, ac am gael gwared â’r rhwystrau sy’n oedi diagnosis cynnar ar gyfer canser yr ofari.

“Mae’n ffaith bod diagnosis cynt yn achub bywydau.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2023-11-17 14:45:10 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd