Croeso i'r Eisteddfod

Siân yn croesawu'r Eisteddfod i Wynedd

Dyma neges gan Siân Gwenllian AS ar drothwy ymweliad ein prifwyl â Gwynedd:

 

"Â’r aros bron ar ben, mae’n bleser croesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru i Wynedd!

 

"Gwn fod cymunedau ar draws Llŷn, Eifionydd ac Arfon wedi bod wrthi'n ddyfal yn codi arian, yn trefnu dros wythnos o weithgareddau, ac yn harddu'r ardal ar gyfer ymweliad ein prifwyl.

 

"Dymunaf pob hwyl i etholwyr sy'n cymryd rhan, neu sydd yno i fwynhau arlwy o ddiwylliant a chelfyddydau.

 

"Mae gennyf innau gyfres o sgyrsiau y byddaf yn cymryd rhan ynddynt, maent wedi’u nodi isod.

 

Welwn ni chi ym Moduan!"

 

 

Diwrnod

Amser

Pwy

Lle

Sadwrn 5/8/23

14:00

Sicrhau Cymunedau Ffyniannus: Gyda’n Gilydd 

Cymdeithasau 2 

 

Mawrth 8/8/23

13:00

Gwneud gwahaniaeth: y Cytundeb Cydweithio

Stondin y Blaid

Mercher 9/8/23

17:30

Menter a Busnes: Sut mae denu pobl ifanc i fyw a gweithio yng nghefn gwlad Cymru?

Cymdeithasau 2

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2023-08-03 14:07:51 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd