Eitemau’r Ocsiwn Nadolig!

Mae gwledd yn eich aros yn Dôl Dafydd!

Bydd ocsiwn Nadolig yn cael ei chynnal yng Nghlwb Rygbi Bethesda ddiwedd y mis, ac mae gan gennych chi gyfle arbennig i gael blas ar yr eitemau fydd ar gael.

 

Cynhelir y noson ar 18 Tachwedd, ond bydd cyfle i roi cynnig am eitemau o flaen llaw hefyd. Ymhlith y pethau sydd ar gael mae gweithiau celf, hampyrs cynnyrch lleol, gemwaith o safon ac englyn comisiwn gan Myrddin ap Dafydd. Mae rhestr lawn o’r gwobrau i’w gweld isod.

 

Felly dewch draw i Glwb Rygbi Bethesda ar 18 Tachwedd. Mae pris tocyn yn £15 ac yn cynnwys bwyd poeth ac adloniant gan y Cyffro. 

  

Bydd pob ceiniog o'r noson yn cyfrannu at sicrhau mai Catrin Wager fydd Aelod Seneddol nesaf yr ardal.

 

Tocynnau ar gael yma.

 

Eitemau’r Ocsiwn:

 

  1. Tocyn oes pier y Garth gan Gyfeillion Pier y Garth.
  2. Hampyr o gynnyrch Coffi Eryri a Cwrw Nant.
  3. Cinio Sul i ddau yn y Llechen, Tal-y-Bont ger Bangor.
  4. Taith tywys o stiwdio Sain gan Dafydd Iwan.
  5. Bwyd a diod i deulu o 4 gyda diod feddal neu feddwol yn Nhafarn y Garth, Bangor.
  6. MOT gan Arwyn Owen, Garej Tŷ Gwyn, Llanrwst.
  7. Potel o wisgi Tŷ’r Arglwydd wedi’i arwyddo gan Dafydd Wigley.
  8. Cacen ar gyfer unrhyw achlysur gan Elin Walker-Jones.
  9. Gwers crochenwaith neu daleb gwerth £50 gan Grochenwaith Gwenllian Dwyfor.
  10. Hampyr Llaethdy Plas Isa, Llansanffraid Glan Conwy.
  11. Print ‘Bangor’ gan yr artist lleol Sioned Glyn
  12. Mwclis gan gan y gwneuthurwr a’r dylunydd Ann Catrin Evans.
  13. Darn o gelf yn darlunio arfordir Cymru gan yr artist Mavis Gwilliam. Rhoddir yr eitem gan Gwyneth John.
  14. Cerdd o ‘Rhyddid’, pryddest fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yn llawysgrifen Rhys Iorwerth.
  15. Twrci ar gyfer y Nadolig gan Jones a’i Fab, Llanrwst.
  16. Englyn Comisiwn gan y cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.
  17. Print gan Luned Rhys Parri yn darlunio’r brotest enwog ar Bont Trefechan
  18. Crys pêl-droed Cymru wedi’i arwyddo.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2023-11-06 15:58:20 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd