Enwi car trydan newydd Dyffryn Ogwen

Mae’r car trydan yn rhan o fenter gyffrous Dyffryn Gwyrdd

‘E-Fan’ yw’r enw sydd wedi ei roi ar gar trydan newydd Dyffryn Ogwen, sy’n rhan o brosiect Dyffryn Gwyrdd yr ardal.

 

Mae’r enw newydd yn chwarae ar yr enw Cymraeg ‘Efan’, yn ogystal â chyfeirio at rinweddau eco-gyfeillgar y car trydan newydd.

 

Cyhoeddwyd yr enw mewn seremoni arbennig yn Llys Dafydd, a fynychwyd gan gynrychiolwyr o fenter Dyffryn Gwyrdd, disgyblion yr ysgol, yn ogystal â Siân Gwenllian AS, cynrychiolydd yr ardal yn Senedd Cymru.

 

Sefydlwyd Dyffryn Gwyrdd gyda’r bwriad o fynd i'r afael â materion cymunedol sy’n effeithio ar Ddyffryn Ogwen, yn cynnwys yr argyfwng hinsawdd, unigrwydd, a thlodi tanwydd.

 

Ond mae gobaith y bydd y car trydan newydd sy’n rhan o’r prosiect yn mynd i’r afael â her benodol iawn sy’n effeithio ar yr ardal, sef tlodi trafnidiaeth wledig.

 

Bydd y car trydan yn un cymunedol (e.e. bydd modd ei ddefnyddio i fynychu apwyntiadau ysbyty) yn ogystal â sicrhau bod 25 pryd ar glyd yn cael eu danfon yn wythnosol.

 

Aeth Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli’r ardal yn Senedd Cymru yn ogystal â bod yn llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, draw i seremoni enwi’r car.

 

Dywedodd;

 

“Roeddwn yn falch o gael bod yn bresennol yn agoriad swyddogol hwb y Dyffryn Gwyrdd ar Stryd Fawr Bethesda rai wythnosau’n ôl, ac mae’n braf gweld gwaith arloesol y prosiect yn dwyn ffrwyth.

 

“Mae ’na ysbryd cydweithredol, cymunedol cryf yn Nyffryn Ogwen, ac mae ’na fentrau, prosiectau, a chyfleoedd gwrifoddoli yn egino ar draws y dyffryn o hyd.

 

“Mae’n braf gweld yr ysbryd o undod a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig yn parhau y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw.

 

“Mae’n arbennig o galonogol gweld pwyslais prosiectau fel y car trydan ar gynaliadwyedd, yn enwedig o ystyried yr her ddigynsail sy’n ein hwynebu ar ffurf newid hinsawdd.

 

“Yn fwy na dim, roedd yn hyfryd gweld brwdfrydedd pobol ifanc y dyffryn.”

 

Mae Dyffryn Gwyrdd yn brosiect gwyrdd gan Bartneriaeth Ogwen. Menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen yw Partneriaeth Ogwen.

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-10-04 14:47:51 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd