Gwobr i O.P!

Mae O.P. Huws, un o gymeriadau amlycaf Dyffryn Nantlle wedi derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth yn ddiweddar.

 

Mae'r wobr yn cael ei rhoi yn flynyddol i aelodau sydd wedi rhoi cyfraniad oes i Blaid Cymru, ac fe dderbyniwyd y gydnabyddiaeth gan fab O.P., Dr. Bleddyn Huws, ar ran ei dad.

 

Enwebwyd O.P. gan Bwyllgor Etholaeth Plaid Cymru Arfon, a chyflwynwyd y wobr gan ei gyfaill Alun Ffred.

 

Er ei fod yn enedigol o Ddyffryn Ceiriog daeth O.P. i fyw i Ddyffryn Nantlle yn ŵr ifanc. Dechreuodd ymgyrchu dros Blaid Cymru ar ôl cael ei ysbrydoli gan un o gynghorwyr y Dyffryn, Wmffra Roberts. Bu’n Gynghorydd Cymuned yn enw Plaid Cymru am hanner can mlynedd, a chafodd ei ethol yn Gynghorydd Dosbarth dros sedd Llanllyfni, cyn cael ei ethol yn Gynghorydd Sir ar ôl yr adrefnu.

 

Bu’n weithgar yn ei fro, yn ymladd dros yr ysgol leol a chreu Cymdeithas Ardal i gymhathu newydd-ddyfodiaid. Mae’n debyg mai fo yn anad neb fu’n gyfrifol am greu Antur Nantlle, hefyd.

 

Yn ogystal â hynny, bydd pobol y Dyffryn yn ymwybodol o lwyddiant O.P. fel gŵr busnes, a hynny ym myd cywion ieir a chyda Chwmni Recordiau Sain.

 

Yn ôl Siân Gwenllian AS:

 

"Mae'r wobr yn gydnabyddiaeth haeddiannol o ymrwymiad anferthol O.P. i'r achos dros y blynyddoedd, yn gosod sail gadarn i’r sefyllfa gref y mae’r Blaid ynddi yn ardal Arfon erbyn heddiw.

 

"Mae llwyddiant Plaid Cymru yn hollol ddibynnol ar gyfraniad gwirfoddolwyr, ac rwy’n falch o weld un o’n gwirfoddolwyr ffyddlonaf yn cael eu gwobrwyo."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2023-10-20 16:07:26 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd