AS yn plannu coeden yn rhan o ymgyrch NFU Cymru

Plannwyd y goeden ar fferm yn Saron

 

Yn ddiweddar, planodd Siân Gwenllian, cynrychiolydd Arfon yn Senedd Cymru, goeden dderw ar fferm Ty’n Rhos yn Saron, fel rhan o ymgyrch #GrowingTogether yr undeb. Darparwyd y goeden drwy garedigrwydd Coed Cadw - Ymddiriedolaeth Coetir Cymru.

 

Mae ymgyrch #GrowingTogether Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr yn hyrwyddo plannu mwy o goed wedi'u hintegreiddio i systemau ffermio, fel rhan o strategaeth ar gyfer ehangu coetir mewn ffordd gynaliadwy yng Nghymru.

 

Yn dilyn ei hymweliad â'r fferm, dywedodd Siân Gwenllian AS:

 

“Rwy’n bryderus i glywed am yr arfer, nad yw’n cael ei rheoleiddio, o blannu coed ar dir amaethyddol yng Nghymru gan gwmnïau rhyngwladol mawr. Er mwyn mynd i’r afael â her enfawr newid hinsawdd yng Nghymru, rhaid inni gydweithio'n agos gyda'n diwydiant amaeth.

 

“Dyna pam fy mod i’n falch iawn o glywed bod ymgyrch #GrowingTogether yr NFU yn cefnogi rhaglen blannu coed sydd wedi’i hintegreiddio i arferion ffermio - yn hytrach na disodli’r arferion hynny.

 

“Mae’n wych gweld yr NFU yn ysgwyddo peth o’r cyfrifoldeb dros liniaru effeithiau’r argyfwng hinsawdd.

 

“Mynychais rali Cyfiawnder Hinsawdd ym Mangor yn ddiweddar ac roeddwn yn dyst i angerdd ac ymrwymiad pobl leol i weithredu o blaid yr hinsawdd.

 

“Hefyd, yn ddiweddar, rwyf wedi ymweld â phrosiect Dyffryn Gwyrdd yn Nyffryn Ogwen, Beics Antur yng Nghaernarfon a cheir trydan newydd Dyffryn Ogwen. Mae gan y mentrau hyn ddatrysiadau creadigol i'r heriau sy'n ein hwynebu.

 

“Ymunais hefyd ag ymgyrch 10,000 llais Climate Cymru, ac ymunais â chydweithwyr Plaid Cymru i alw am allyriadau sero net erbyn 2035, Deddf Natur, ac adfer bioamrywiaeth erbyn 2050, yn ogystal â sefydlu cwmni datblygu ynni Cymru.

 

“Hoffwn ddiolch i NFU Cymru am gael bod yn rhan o’u hymgyrch ddiweddaraf.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-11-18 08:49:11 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd