Paned i gefnogi Bore Coffi Macmillan

Ymunodd Siân Gwenllian AS â staff a gwirfoddolwyr Macmillan Cymru yn y Senedd ar gyfer Bore Coffi blynyddol yr elusen.

 

Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddarganfod mwy am sut mae Macmillan yn cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser.

 

Eleni, mae'r elusen canser yn dathlu 33 mlynedd o foreau coffi sy'n codi miliynau o bunnoedd mewn digwyddiadau yn y gwaith, yn y gymuned, mewn cartrefi, ac mewn ysgolion.

 

Yn ôl Siân Gwenllian AS:

 

“Mae gen innau, fel nifer o’m hetholwyr, brofiad personol iawn o effaith cancr.

 

“Mae pob paned sy'n cael ei hyfred fel rhan o fore coffi Macmillan yn helpu'r elusen fod o gymorth i bobol sy'n byw gydag effeithiau cancr.

 

“Mae nifer o ddigwyddiadau eisoes wedi cael eu cynnal yn Arfon, a gwn fod mwy dros yr wythnosau nesaf.


“Mae pob ceiniog yn cyfrif, ac felly dwi’n annog pawb i gefnogi drwy gyfrannu at fore coffi lleol ym mha bynnag ffordd.”

 

Wrth drafod digwyddiad blynyddol yr elusen yn y Senedd, dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru:

 

“Mae Bore Coffi Macmillan yn y Senedd yn ddigwyddiad arbennig. Mae'n wych gallu cwrdd â'n Haelodau o'r Senedd a rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol i gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru. Hoffem ddiolch o galon i Siân Gwenllian AS am ei chefnogaeth.

 

“Gall diagnosis canser droi bywydau ben i waered, ac rydan ni’n byw mewn cyfnod heriol sy'n gallu gwaethygu effaith diagnosis. Mae ffactorau ariannol a chymdeithasol fel y pandemig a'r argyfwng ynni yn golygu bod angen cefnogaeth Macmillan yn fwy nag erioed.”

 

Cynhaliwyd prif Fore Coffi Macmillan eleni ar ddydd Gwener 29 Medi, ond gellir cynnal digwyddiadau lleol drwy gydol y flwyddyn.

 

Am wybodaeth neu gymorth sy'n ymwneud â chanser, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00 (8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu ewch i www.macmillan.org.uk.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2023-10-02 12:56:25 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd