Siân a Hywel yn ymweld â thai newydd yn Rachub

Aeth Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS draw i Gae Rhosydd yn Rachub i ymweld â datblygiad tai fforddiadwy newydd sbon ar yr hen safle hanesyddol.

 

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf gogledd Cymru, wedi datblygu’r safle i gynnwys 30 o gartrefi modern, gan gynnwys 26 o dai a 4 byngalo, sy’n gymysgedd o gartrefi rhent cymdeithasol a rhent canolradd.

 

Mae gan bob un o'r tai ar y datblygiad dystysgrif perfformiad ynni (EPC) A, yn ogystal â phaneli solar a phwyntiau gwefru ceir trydan. Maen nhw’n cael eu gwresogi gan Bympiau Gwres Ffynhonnell Aer.

 

Yn ôl Siân Gwenllian AS:

 

“Mae cyfran uchel o’m llwyth gwaith achos yn ymwneud â’r angen dybryd lleol sydd am dai, ac mae’n braf ymweld â datblygiad newydd sy’n chwarae rhan wrth fynd i’r afael â’r angen hwnnw.

 

“Mae’n wych clywed hefyd bod cynaliadwyedd wrth galon y datblygiad, a bod Adra yn gwneud eu rhan wrth fuddsoddi mewn technoleg werdd er mwyn lleihau ôl-troed carbon y tai.

 

“Rwy’n edrych ymlaen at weld teuluoedd ac unigolion lleol yn dechrau pennod newydd yn eu bywydau yn y tai hyn, gan sicrhau fod cymuned Rachub yn parhau i ffynnu.”

 

Ychwanegodd Hywel Williams AS:

 

“Roeddwn yn falch iawn o’r cyfle i ymweld â’r datblygiad newydd. Mae’r safon yn ardderchog a bydd y tai a’r byngalos yn rhoi y cartrefi clud parhaol i bobl lleol mae cymaint o alw amdano.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2023-12-08 13:22:18 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd