Trafod yr argyfwng tai yng Nghaernarfon

Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionydd yw cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Dai, a bydd yn trafod ei ymweliad â’r Ŵyl Dai Ryngwladol mewn digwyddiad arbennig ddiwedd y mis.

 

Cynhelir Yr Argyfwng Tai: Gwersi gan wledydd eraill yn y Bar Bach, Caernarfon nos Iau, Medi 21 am 7:00PM, a bydd Mabon yn myfyrio ar ei ymweliad â’r ŵyl yn Barcelona ym mis Mehefin.

                                                                                                           

Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol aeth Mabon i’r ŵyl gan obeithio dysgu gwersi gan wledydd eraill am sut y gall Cymru fynd i’r afael â’i hargyfwng tai. Hefyd, ym mis Mawrth 2023 mynychodd Gynhadledd Tai Genedlaethol Iwerddon. Er bod Iwerddon ymhlith gwledydd cyfoethocaf y byd, mae’r wlad, ac yn enwedig ei phrifddinas Dulyn, yn wynebu argyfwng tai ar raddfa sylweddol.

 

A'r wythnos nesaf bydd Mabon ap Gwynfor yn rhannu rhai o'r pethau a ddysgodd yn y ddwy gynhadledd fel rhan o gyfarfod cyhoeddus yng Nghaernarfon.

 

Yn ôl Mabon:

 

“Mae’r argyfwng tai yn wynebu pobl a chymunedau ar draws y byd, ond mae’r argyfwng yn fwy aciwt mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol.

 

“Sut mae mynd i’r afael â’r argyfwng yma?

 

Dw i wedi teithio i Vienna, Barcelona a Dulyn, ac wedi cwrdd â chynllunwyr polisi a darparwyr tai yn yr Iseldiroedd, De Tyrol, Ffindir, Ffrainc, Canada a gwledydd eraill er mwyn gweld pa gamau sydd sy’n cael eu cymryd yno er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai.

 

“Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i glywed pa arferion da y gall Cymru eu dysgu er mwyn dechrau datrys y broblem yma.”

 

Cynhelir noson yng nghwmni Mabon ap Gwynfor yn Bar Bach, Caernarfon nos Iau, Medi 21 am 7:00pm ac mae mynediad am ddim. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2023-09-15 14:43:27 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd