Ymateb Siân Gwenllian AS i orsaf drydan arfathedig yng Nghaernarfon

Mae nifer o drigolion Caernarfon wedi cysylltu â mi yn ddiweddar yn rhannu eu pryderon ynghylch yr orsaf gynhyrchu trydan arfaethedig yn Chwarel Seiont. Ar hyn o bryd mae cyfle i rannu barn leol trwy wefan Cadnant Planning, lle mae'r cais cynllunio drafft ar gael i'w adolygu.

 

Rwy’n annog y rhai sydd â diddordeb i leisio’u barn drwy’r wefan cyn Awst 25: https://www.cadnantplanning.co.uk/seiont-quarry.

 

Ar ôl adolygu’r cynlluniau, rwyf wedi cysylltu â Cadnant Planning i fynegi fy ngwrthwynebiad i’r orsaf arfaethedig. Gall gweithfeydd sy'n dibynnu ar danwydd ffosil gyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr a llygredd aer yn sylweddol. Yn ogystal, mae'r cynlluniau'n dangos na chaiff swyddi parhaol eu creu fel rhan o'r prosiect.

 

O ystyried y manteision cyfyngedig i Arfon, ni allaf gymeradwyo’r cynnig hwn.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2023-08-24 11:59:31 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd